Gostwng nifer gwelyau Ysbyty Bronglais dros dro

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l y bwrdd iechyd mae'r datblygiad yn sicrhau dyfodol Bronglais fel Ysbyty Cyffredinol Dosbarth

Bydd llai o welyau ar gael yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth am gyfnod oherwydd cynllun ailwampio gwerth 拢38 miliwn.

Bydd uned penderfyniad clinigol 10 gwely yn cymryd lle ward 15 gwely Rheidol yn yr ysbyty fel rhan o adran damweiniau ac achosion brys newydd yn yr ysbyty.

Mae'r gwaith adfer hefyd yn cynnwys uned mamolaeth, uned meddygfa dydd, dwy theatr llawdriniaethau a ward llawfeddygol arhosiad byr.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda y byddai'r uned penderfyniad clinigol yn cynnwys 10 gwely am flwyddyn pan fydd yr uned damweiniau ac achosion brys newydd yn agos ddydd Gwener nesaf.

Maes parcio newydd

Ychwanegodd y bwrdd y byddai nifer y gwelyau yn yr uned yn codi i 14 gwely pan fydd y gwaith adfer wedi ei gwblhau yn 2014.

Dywedodd cyfarwyddwr Ceredigion y bwrdd iechyd, Jeremy Brown: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i bobl Ceredigion fydd yn ein helpu i ddarparu gofal iechyd o safon byd iddynt."

Yn 么l y bwrdd iechyd mae'r datblygiad yn sicrhau dyfodol Bronglais fel Ysbyty Cyffredinol Dosbarth.

Mae maes parcio newydd ar gyfer yr ysbyty eisoes wedi ei agor fel rhan o'r cynllun.