Pennod newydd yn hanes y 麻豆官网首页入口 ac S4C

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口/S4C

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cytundeb ei gymeradwyo ym mis Ionawr, fydd yn "sicrhau annibyniaeth S4C"

Mae S4C bellach yn derbyn y rhan fwyaf o'i chyllid o drwydded y 麻豆官网首页入口.

Bydd Adran Ddiwylliant Llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢7 miliwn at gostau'r sianel a bydd dros 拢76 miliwn yn dod trwy'r 麻豆官网首页入口.

Mae'r cytundeb yn pwysleisio annibyniaeth olygyddol a rheolaethol S4C, ond wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Iestyn Garlick, bod yna rai pryderon er na fyddai'r gynulleidfa yn debygol o weld gwahaniaeth.

"Mae e'n ddigon clir yn y cytundeb bod S4C yn cadw annibyniaeth weithredol a golygyddol, felly dwi ddim yn rhagweld unrhyw newid o ran y cynnwys," meddai.

"Mae'r arian wedi mynd lawr yn sylweddol...Tan yr amser yma flwyddyn nesa', fe fydd 拢76 miliwn yn dod o goffrau'r ffi drwydded. Ond erbyn 2017, mi fydd yr arian wedi mynd lawr i 拢74.5 miliwn. Felly mae 'na le i bryderu.

'Sefyllfa eithriadol'

"Y prif bryder sydd gennym mi fel TAC ydy'r ffaith fod gan Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 yr hawl i atal arian S4C mewn sefyllfa eithriadol.

"Da ni'n teimlo y dylai unrhyw anghydfod felly gael ei drosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Mewn ymateb, dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y 麻豆官网首页入口 dros Gymru ac aelod o Awdurdod S4C, ar y Post Cynta':

"Byddai'r cyhoedd yn meddwl ein bod ni'n gwbl anghyfrifol pe na bai 'na ryw gymal o'r fath - pe bai 'na achos o fraud difrifol a dim cymal fyddai'n eich galluogi i stopio'r arian.

"Dyw hynny ddim yn debygol o ddigwydd - mae gan S4C record ariannol ddilychwyn dros 30 mlynedd.

"Mi fyddwn i'n disgwyl i hynny barhau o dan gadeiryddiaeth Huw Jones a'r prif weithredwr newydd, Ian Jones.

Cydweithio

Ychwanegodd ei bod hi'n gobeithio y byddai'r cytundeb yn arwain at gryfhau'r berthynas rhwng S4C a'r 麻豆官网首页入口, a dywedodd bod nifer o brosiectau ar y cyd yn barod.

"Mae 'na gynhyrchiadau ar y cyd, fel Mathias, fydd yn cael ei ddangos ar 麻豆官网首页入口4 - felly mae hwnna'n gam ymlaen.

"Mae 'na fwriad i ganiat谩u i S4C fod ar yr iPlayer, er enghraifft, fel bod pobl yn gallu gweld a chlywed cynhyrchiadau yn ogystal ag ar Clic.

"Ac mae 'na s么n am edrych ar adeiladau efo'n gilydd ym Mae Caerdydd.

"Ond yr hafaliad ydy cadw'r annibyniaeth a thrio canfod pob elfen o gydweithredu sy'n arbed arian i S4C."

Bydd S4C yn derbyn y rhan helaeth o'i harian trwy ffi drwydded y 麻豆官网首页入口 o fis Ebrill 2013 tan 2017.

Bydd grant ychwanegol o 拢7m oddi wrth Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.

Bydd y 麻豆官网首页入口 yn cyfrannu'r canlynol o ffi'r drwydded i S4C:

  • 2013-14 - 拢76.3m;
  • 2014-15 - 拢76.0m;
  • 2015-16 - 拢75.25m;
  • 2016-17 - 拢74.5m.

Yn ogystal, yn ystod 2013-14 bydd y 麻豆官网首页入口 yn cyfrannu rhaglenni gwerth 拢19.4m fel rhan o'r Bartneriaeth Strategol ar y ddarpariaeth statudol o raglenni.