Cynllunio: Comisiynydd yn siomedig

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Aled Scourfield

Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn "siomedig a phryderus" nad yw Llywodraeth Cymru wedi cryfhau'r canllawiau i awdurdodau lleol am sut i ddelio gyda cheisiadau cynllunio a'u heffaith ar yr iaith.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion9 gan y 麻豆官网首页入口, dywedodd Meri Huws fod angen i Lywodraeth Cymru adolygu'r canllawiau - Nodyn Cyngor Technegol 20, neu TAN 20 - ac nad oedd canllawiau statudol i awdurdodau lleol am sut i ddelio gyda cheisiadau mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol ac y gallai'r cais gael effaith ar yr iaith.

Dywedodd Ms Huws fod tueddiad wedi bod yn y gorffennol i ystyried yr iaith Gymraeg ar ei phen ei hun, a heb ystyried effaith yr economi na materion cynllunio arni.

Gwrthododd y Gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am gynllunio, Carl Sargeant, wneud cyfweliad ar y rhaglen, ond mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymgynghori ar adolygiadau i TAN 20 ac mae'r cynllun yn tynnu at ei derfyn.

"Mae'r Gweinidog Tai, Adfywio a Chynllunio, Carl Sargeant, yn adolygu'r holl broses, ac fe fyddwn yn cyhoeddi canlyniadau hynny maes o law."