Myfyrwyr ar gyrsiau 'anghywir'

Disgrifiad o'r llun, Dywed Estyn bod esiamplau o fyfyrwyr yn cael eu rhoi ar gyrsiau sy'n anaddas iddyn nhw

Mae rhai darparwyr addysg bellach yn gosod myfyrwyr ar y cyrsiau "anghywir" er mwyn denu mwy o gyllid, yn 么l y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru.

Dywed Estyn bod, ar adegau, gormod o ddarparwyr - megis adrannau chweched dosbarth a cholegau - yn cystadlu am fyfyrwyr, ac nad yw hyn "bob tro yn gweithio er budd" y myfyrwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r sustemau ariannu a chynllunio addysg 么l-16 oed.

Cyrsiau anaddas

Yn 么l Huw Collins, sy'n arolygwr 么l-16 i Estyn: "Po fwyaf o fyfyrwyr y maen nhw'n eu cael ar gyrsiau, y mwyaf o arian y maen nhw'n denu.

"Felly weithiau maen nhw'n rhoi dysgwyr ar y lefel anghywir o gwrs, neu'r math anghywir o gwrs.

"Dyw pobl ifanc, yn enwedig rhwng 14-19 oed, ddim bob tro'n cael y ddarpariaeth orau sy'n fwyaf addas iddyn nhw ar y lefel cywir, felly mae cystadleuaeth i ddarparwyr i ddenu arian trwy gael cymaint o bobl ifanc 芒 phosib ar eu cyrsiau.

"Dyw hynny ddim bob tro er y budd mwyaf i'r dysgwyr."

Ychwanegodd bod esiamplau o fyfyrwyr yn cael eu rhoi ar gwrs nad oedd yn addas iddyn nhw ac yna'n gadael y cwrs ar ei hanner o ganlyniad.

'Diflasu gydag addysg'

Yn 么l Estyn mae oddeutu un o bob pump o fyfyrwyr sy'n mynd i goleg addysg bellach yn methu 芒 chwblhau'r cwrs. Does dim ffigwr cyfatebol ar gyfer ysgolion neu ddarparwyr addysg yn y gweithle.

Dywedodd Mr Collins: "Os nad yw'r cwrs yr hyn y maen nhw'n ei ddisgwyl maen nhw'n gadael ac yn diflasu gydag addysg a hyfforddiant."

Ond mynnodd John Graystone, prif weithredwr Colegau Cymru, bod y sefyllfa wedi gwella dros y degawd diwethaf. Dywedodd:

"Rydym yn son am ffigwr o tua 80% a mwy yn cwblhau cyrsiau nawr, ond roedd y ffigwr yn agosach at 50% ddeng mlynedd yn 么l felly rydym wedi cymryd camau anferth.

"Wrth i ni gyrraedd y ffigwr o 80% mae'r bar yn codi ac mae'n mynd yn fwy o her."

Cydweithio

Ers 2008 mae Llywodraeth Cymru wedi annog darparwyr addysg 么l-16 i weithio'n agosach gyda'i gilydd drwy lansio "agenda trawsnewid".

Dywedodd pennaeth Coleg Sir G芒r Barry Liles - coleg sy'n gweithio gydag ysgolion lleol er mwyn cynnig ystod eang o gyrsiau:

"Rydym bob tro wedi cydnabod yr angen i osod uchelgais y sefydliad o'r neilltu. Rhaid i ni gadw at ein gair a rhoi dysgwyr wrth galon ein gwaith a darparu'r cyfleoedd gorau.

"Yr hyn sydd gennym yw partneriaeth yng ngwir ystyr y gair. Nid mater o 'ni a nhw' yw hyn, ac mae gennym esiamplau gwych yma trwy weithio gyda'r ysgolion lleol."