麻豆官网首页入口

Dim arholiadau yn Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Exam paper
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd disgyblion ddim yn sefyll eu arholiadau ym mis Ionawr yn y dyfodol

Fe fydd disgyblion Lefel A sy'n dechrau eu cyrsiau ym mis Medi y flwyddyn nesaf yn colli'r hawl i sefyll arholiadau ym mis Ionawr.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai hynny'n lleihau costau ac na fyddai angen i athrawon dreulio cymaint o amser yn asesu gwaith.

Yn Lloegr mae'r drefn eisoes wedi diflannu.

Ar hyn o bryd mae disgyblion yn medru penderfynu sefyll rhai o'u harholiadau ym mis Ionawr a'r gweddill yn yr haf. Ond bydd y drefn nawr yn newid.

Gwerth i'r TGAU

Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Iau mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud: "Daeth yr Adolygiad o Gymwysterau i'r casgliad bod cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn gymwysterau sy'n ennyn hyder a bod pobl yn rhoi gwerth arnynt.

"Drwy ddiwygio addas, a amserir yn briodol, gallwn sicrhau bod y cymwysterau hyn yn rhai gwell byth ac o safon sy'n cymharu 芒 gweddill y DU a thu hwnt.

"Yng Nghymru, nid yw ein cefnogaeth i gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wedi gwegian ac rydym yn dal i fod yn ymroddedig i'w cadw."

Dim dilyn Lloegr

Yn Lloegr mae 'na newidiadau mawr wedi eu cyhoeddi i'r cymhwyster TGAU gyda gwaith cwrs yn dod i ben ac arholiadau yn digwydd ar ddiwedd y ddwy flynedd.

Bydd y newidiadau yn dechrau yn 2015.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu parhau gyda'r drefn bresennol.