Torri 2% o gyllideb Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell y llun, AFP

Disgrifiad o'r llun, Mae cyfnod yr adolygiad gwariant yn mynd y tu hwnt i'r etholiad cyffredinol nesaf

Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru'n cael ei thorri 2% ar 么l 2015 fel rhan o adolygiad gwariant y Canghellor George Osborne.

Dywedodd Mr Osborne mai 拢13.6 biliwn fydd y gyllideb newydd ac y byddai gweinidogion o Lywodraeth y DU yn ymateb i argymhellion y comisiwn Silk ar bwerau'r Cynulliad yn fuan.

Roedd y cyhoeddiad yn rhoi manylion yngl欧n 芒 sut mae Mr Osborne yn bwriadu arbed 拢11.5 biliwn o gyllideb Llywodraeth y DU.

Ymyl y dibyn

Dechreuodd Mr Osborne trwy ddweud eto bod Prydain yn dod allan o argyfwng a bod y glymblaid yn San Steffan wedi tynnu'r DU yn 么l o'r dibyn o fod yn fethdalwyr.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Cyhoeddodd Mr Osborne gwtogiad o 2% i gyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru

Addawodd y byddai'n sicrhau gwasanaethau cyhoeddus am bris fforddiadwy.

Ond dywedodd hefyd y byddai'r diwylliant o "gael rhywbeth am ddim" gan y wladwriaeth les yn dod i ben.

Cyfeiriodd yn 么l at y llywodraeth Lafur oedd mewn grym tan 2010 gan ddweud ei bod wedi benthyg punt am bob pedair punt yr oedd yn gwario.

Roedd benthyca'r DU yn 2010 yn 拢157 biliwn bob blwyddyn - dywedodd y byddai hynny'n disgyn i 拢108 biliwn eleni.

Datgelodd Mr Osborne ei fod wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd o 拢5 biliwn eisoes, ond y byddai'n cyfyngu codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus i 1%, ac y byddai 144,000 yn llai o bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus erbyn 2015-16.

Dywedodd Mr Osborne y byddai datblygiad cyflog awtomatig yn y gwasanaeth sifil yn dod i ben erbyn 2015/16, ac y byddai codiadau yn seiliedig ar hyd cyflogaeth yn dod i ben mewn meysydd eraill gan gynnwys addysg, y gwasanaeth iechyd a'r heddlu ond gan eithrio'r lluoedd arfog.

Cyllideb Cymru

Fe restrodd rai o adrannau'r llywodraeth fyddai'n gweld cwtogiad yn eu cyllidebau, gan gynnwys 10% i'r Trysorlys, Swyddfa'r Cabinet a'r Adran Llywodraeth Leol.

Aeth ymlaen i fanylu am gyllidebau'r cyfundrefnau datganoledig - bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn 拢13.6 biliwn - cwtogiad o 2% - a dywedodd y byddai'n cyhoeddi yn fuan beth yw ymateb y llywodraeth i argymhellion Comisiwn Silk ac ac y byddai bryd hynny yn gallu rhoi manylion cynllun ar gyfer ffordd liniaru ar gyfer traffordd yr M4 ger Casnewydd.

Bydd cyllidebau Swyddfa Cymru, ynghyd 芒'r Alban a Gogledd Iwerddon, yn cael eu cwtogi 10%.

Bydd rhai adrannau yn diodde' llai nag eraill. 6% yw cwtogiad cyllideb y Swyddfa Gartref - er y bydd y toriadau i'r heddlu yn llai na hynny - ac 8% i'r Swyddfa Dramor.

Fe fydd y gwasanaeth cudd-wybodaeth yn cael cynnydd o 3.4% yn eu cyllideb nhw.

Ymhlith y toriadau i adrannau eraill fe fydd 10% yn llai i'r Adran Amaeth a Materion Gwledig a'r Adran Gyfiawnder, 9% i'r Adran Drafnidiaeth, 8% i'r Adran Amgylchedd a Newid Hinsawdd a 6% i'r Adran Fusnes, Menter a Sgiliau.

Ond ychwanegodd y byddai'r gyllideb gyfalaf i drafnidiaeth yn cynyddu i 拢9.5 biliwn gan arwain at wario mwy ar ffyrdd nag ar unrhyw adeg ers hanner canrif.

Budd-daliadau

Yn 么l y disgwyl fe gadarnhaodd Mr Osborne y byddai cyllidebau ar gyfer iechyd ac addysg yn Lloegr cael eu gwarchod yn ei adolygiad.

Bydd cyllideb yr Adran Iechyd fell yn 拢110 biliwn erbyn 2015-16, ond ychwanegodd y canghellor y byddai'r llywodraeth glymblaid yn diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr i ddarparu gwasanaethau cysylltiedig o dan gyfundrefn newydd.

Pan drodd at fudd-daliadau, dywedodd Mr Osborne fod yn rhaid i ddau gr诺p o bobl fod yn fodlon gyda'r gyfundrefn les - y rhai a oedd ei angen, a'r rhai sydd yn talu amdano.

Cyflwynodd Mr Osborne uchafswm ar gyllideb y wladwriaeth les yn ogystal. Roedd uchafswm i unigolion eisoes wedi ei gyflwyno yn y gyllideb yn gynharach eleni, ond dywedodd y canghellor y byddai'r uchafswm newydd yn ymwneud 芒 chyfanswm y gwariant ar fudd-daliadau.

Dywedodd na fyddai pensiwn y wladwriaeth yn cael ei gynnwys yn yr uchafswm, a fydd yn cael ei bennu bob blwyddyn o Ebrill 2015. Disgrifiodd hyn fel terfyn ar gerdyn credyd y wlad.

Fe fydd trothwy tymheredd ar gyfer taliadau tanwydd gaeaf. Y bwriad fan hyn meddai Mr Osborne oedd sicrhau nad yw pobl sy'n byw mewn gwledydd twym yn ei dderbyn.

Bydd yna drefniadau gwahanol hefyd ar gyfer pobl sy'n chwilio am waith, gan gynnwys gorfodi pobl i aros am 7 diwrnod cyn y gallan nhw hawlio budd-daliadau ac y byddai disgwyl i bobl sy'n hawlio budd-daliadau tra'n chwilio am waith fynd i ddosbarthiadau iaith os nad ydyn nhw'n gallu siarad Saesneg.

Dywedodd Mr Osborne y byddai'r newidiadau hyn yn arbed 拢350m y flwyddyn - gyda'r arian hwnnw yn cyllido cefnogaeth ychwanegol i helpu pobl fewn i waith.

Daeth y datganiad i ben am 1:23pm.