S4C: Dim toriad pellach

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Er pryderon rhai fe gyhoeddodd y canghellor na fydd yna doriad pellach yng nghyllideb S4C

Mae'r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi na fydd yna doriad pellach yng nghyllideb S4C.

Roedd nifer o wleidyddion a mudiadau pwyso wedi codi pryderon am ariannu'r sianel cyn y cyhoeddiad.

Roedd Cadeirydd S4C Huw Jones wedi dweud ei fod yn gofidio am fod cyfarfod rhwngddo ef a'r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller wedi ei ganslo a dim un arall wedi ei drefnu.

Gofid rhai oedd y byddai'r sianel yn gorfod bod yn gwbl ddibynnol ar arian yn sgil ffi trwydded y 麻豆官网首页入口.

'Ymrwymiad'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones fod y cyhoeddiad yn dangos bod Llywodraeth San Steffan yn deall pwysigrwydd y sianel i Gymru.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw'n atgyfnerthu ymrwymiad y llywodraeth i wasanaeth teledu Cymraeg cryf ac annibynnol.

"Yn ddi-os, mae S4C wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'r diwydiant creadigol yng Nghymru, ac yn allweddol iawn, i hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Yn wir, dyma'r unig sianel Gymraeg yn y byd.

"Rwy'n falch iawn bod y Canghellor wedi cydnabod pa mor bwysig yw S4C i bobl Cymru, a'i fod wedi gallu sicrhau'r cyllid ar gyfer 2015-16.

"Rwy'n hyderus bod dyfodol disglair i S4C, a bod gan y sianel y sefydlogrwydd a'r sicrwydd sy'n angenrheidiol i fynd o nerth i nerth."

'Rhyddhad'

Yn siarad ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru, dywedodd cadeirydd awdurdod S4C Huw Jones: "'Dan ni yn naturiol yn falch iawn - teimlad o ryddhad dwi'n meddwl , oherwydd bod yna bryder wedi cael ei fynegi y gallai'r newyddion fod yn bur wahanol i hyn.

'Dan ni'n ddiolchgar i lawer iawn o bobl, ASau yn eu plith nhw, sydd wedi cyflwyno'r dadleuon dros S4C, ac sydd, dwi'n meddwl, wedi dylanwadu ar y penderfyniad yma i barhau 芒'r ariannu yn unol 芒'r addewid a roddwyd yn 2010 pan gafwyd y toriad sylweddol."

Dywedodd fod yr arian yn bwysig am ddau reswm: "Mae'r swm yn dal i fod yn sylweddol, pe bawn ni'n colli 拢6.7m mi fyse fo yn anochel wedi cael effaith andwyol ar y gwasanaeth.

"... Mae yna arwyddocad arall, sef bod parhad y cyllid gan y llywodraeth yn golygu bod yna fwy nac un ffynhonnell ariannol yn cynnal S4C - ac mae hynny yn warant os liciwch chi o annibyniaeth y sianel a'r sefydliad, ac mae hynny hefyd yn rhywbeth y rhoddwyd pwys mawr arno fo n么l yn 2010."

Roedd yna groeso hefyd gan Iestyn Garlick ar ran Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC). Dywedodd: "Mae aelodau TAC, wedi wynebu sawl toriad annisgwyl yn barod ac felly'n teimlo rhyddhad o weld y Llywodraeth yn cydnabod bod gan S4C werth diwylliannol ac ariannol, a'u bod wedi cymryd y cyfrifoldeb o warchod yr ariannu yma."

"Mae pawb yn derbyn ein bod mewn cyfnod anodd, ond nid yw wedi gwneud unrhyw synnwyr erioed i gwtogi adnoddau S4C, pan ddylid ei ystyried yn fodd i annog twf yng Nghymru a thu hwnt."