麻豆官网首页入口

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan y lach eto

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Ombwdsmon yn argymell y dylai'r bwrdd iechyd ymddiheuro i Mr a Mrs Q a thalu iawndal o 拢750.

Mae Ombwdsmon Cymru am gyfeirio ei bryderon am fwrdd iechyd mwyaf Cymru i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Ddydd Iau fe wnaeth yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad i bryderon yngl欧n 芒 gofal iechyd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn cydnabod fod rhan o'r gofal am rai cleifion yn is na'r hyn sydd i'w ddisgwyl.

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cynnal pum ymchwiliad yn ymwneud 芒'r bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu gogledd Cymru.

Parkinson

Fis diwethaf fe wnaeth y bwrdd dderbyn casgliadau beirniadol oedd yn s么n am gamreoli.

Fe wnaeth y cadeirydd a'r prif weithredwr ymddiswyddo yn dilyn yr adroddiad oedd yn dweud fod y diffyg perthynas rhyngddynt wedi ychwanegu at y problemau.

Yn ei adroddiad diweddaraf fe wnaeth yr Ombwdsmon, Peter Tyndall, ymchwilio i gwynion gan gwpl sy'n cael eu hadnabod fel Mr a Mrs Q.

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y modd y cafodd Mr Q, sy'n dioddef o glefyd Parkinson, ei adael allan o'r ysbyty.

Roedd yr adroddiad hefyd yn ymchwilio i'r modd roedd cofnodion yn cael eu cadw.

Yn 么l yr Ombwdsmon, roedd o wedi adrodd ar ffaeleddau yn y ddau faes yn y gorffennol gyda'r un un bwrdd iechyd.

Pryderon

"Yng ngoleuni nifer o adroddiadau rwyf wedi gwneud yn ymwneud 芒 Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y 12 mis diwethaf, yngl欧n 芒'r ddau fater, rwyf wedi penderfynu gwneud cynnwys yr adroddiad yn gyhoeddus, " meddai.

"Oherwydd patrwm o bryderon rwy'n meddwl ei bod yn briodol i ddod 芒'r mater at sylw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru."

Aed 芒 Mr Q i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar Fai 17 ac ar Fai 18 2011.

Ond ni chafodd ei gofnodion eu cwblhau yn gywir, ac felly roedd hi'n aneglur pa bryd iddo dderbyn meddyginiaethau.

Yna yn ddiweddarach yn y mis dywed adroddiad Mr Tyndall fod cofnodion Ysbyty Maelor wedi methu ag adlewyrchu yn gywir ymddygiad anodd a phryderus Mr Q a'r hyn wnaeth y staff i ddelio gyda'r sefyllfa.

Cafodd Mr Q ei ryddhau o'r ysbyty heb asesiad.

Hyfforddiant

Dywedodd Mr Tyndall nad oedd modd dweud o'r cofnodion o Ysbyty Glan Clwyd a oedd Mr Q wedi derbyn unrhyw feddyginiaethau ar gyfer clefyd Parkinson.

Mae'r Ombwdsmon yn argymell y dylai'r bwrdd iechyd ymddiheuro i Mr a Mrs Q a thalu iawndal o 拢750.

Fe wnaed nifer o argymhellion eraill yn cynnwys hyfforddiant i staff yn Wrecsam Maelor yngl欧n 芒 chadw cofnodion.

Dywedodd Angela Hopkins un o gyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:

"Rydym yn cydnabod fod peth o'r gofal a roddwyd yn is na'r hyn oedd ei ddisgwyl.

"Rydym wedi ymddiheuro yn uniongyrchol i'r teulu, a hoffwn ailadrodd ei bod yn flin gennym am y pryder a gafodd ei achosi.

"Rydym yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ac rydym eisoes wedi cymryd camau yngl欧n 芒 nifer o'r pwyntiau sy'n cael eu codi.

"Y llynedd fe wnaethom gyflwyno trefn newydd o ryddhau cleifion o ysbytai.

"Hefyd cafodd sesiynau eu cynnal er mwyn i staff drafod y trefniadau newydd er mwyn sicrhau eu bod yn deall y drefn newydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol