麻豆官网首页入口

Miliband yn amddiffyn record iechyd Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ed Miliband
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ed Miliband: 'Lol fyddai derbyn cyngor gan David Cameron'

Mae arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, wedi amddiffyn record Llywodraeth Cymru yn y Gwasanaeth Iechyd.

Fe ddywedodd wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gwneud "gwaith ardderchog" wrth sicrhau fod y Gwasanaeth Iechyd gystal ag y gallai fod, o fewn cyfyngiadau gwariant llywodraeth San Steffan.

Ychwanegodd mai "lol" fyddai derbyn cyngor oddi wrth y Prif Weinidog David Cameron yngl欧n 芒'r polis茂au sy'n cael eu dilyn yn Lloegr.

Mae Mr Cameron wedi beirniadu record Llafur yng Nghymru gan gyfeirio am amseroedd aros am driniaeth ac ymateb y gwasanaeth ambiwlans i dargedau penodol.

Mae Mr Cameron yn aml yn defnyddio record y blaid lafur fel modd o ymosod ar Ed Miliband yn ystod y sesiwn gwestiynau wythnosol yn San Steffan.

Safonau

Ond yn ei gyfweliad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru dywedodd Mr Miliband fod Carwyn Jones yn gwneud popeth posib i godi safonau.

"Mae'n bwysig iawn cofio fod tua 40% o gyllid Cymru yn cael ei wario ar iechyd.

"Rydym wedi gweld toriadau mawr yn yr arian sy'n dod o San Steffan ac yng nghyd-destun hyn rwy'n credu fod Carwyn yn gwneud gwaith gwych wrth gynnal safonau yn y Gwasanaeth Iechyd.

Ers i Mr Jones gymryd yr awenau bedair blynedd yn 么l mae nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ysbyty wedi codi o 227,000 i 416,000.

Ac yn ddiweddar fe wnaeth adroddiad gan yr Archwiliwr Cyffredinol ddweud fod dirywiad wedi bod mewn gwasanaethau fel y gwasanaeth brys yng Nghymru.

Dywedodd Mr Miliband ei fod yn cydnabod fod yna her yn wynebu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Ond y realiti yw bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei reoli gan lywodraeth San Steffan ac mae'r gyllideb wedi ei thorri yn sylweddol.

"Felly mae'n rhaid i lywodraeth Cymru ymdopi gydag effaith hynny."