Y Gymraeg: Cyhoeddi TAN 20

Disgrifiad o'r llun, Carl Sargeant gyhoeddodd y newidiadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid eu canllawiau ar gyfer sut y dylid ystyried y Gymraeg fel rhan o'r system gynllunio.

Wrth gyhoeddi'r newidiadau i (TAN) 20, dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant y byddai'r canllawiau yn golygu bod "awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg".

Roedd y newid yn sgil trafodaethau yn y Gynhadledd Fawr, y drafodaeth genedlaethol am yr iaith yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad oedd yn dangos cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd y Gymraeg.

'Cyfle i siarad'

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo ac ysgogi'r defnydd o'r Gymraeg.

"Mae cyhoeddi'r TAN 20 diwygiedig hwn yn cyflawni ein hymrwymiad yn Iaith fyw: iaith byw, Strategaeth y Gymraeg ar gyfer 2012-17, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth ac arweiniad Comisiynydd y Gymraeg wrth ei baratoi.

Ychwanegodd Mr Sargeant: "Rydyn ni'n cydnabod y gall y system gynllunio helpu creu'r amodau cymdeithasol ac economaidd sy'n rhoi cyfle i bobl siarad Cymraeg.

"Mae'r TAN diwygiedig hwn yn rhoi eglurder i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai ystyriaethau yn gysylltiedig 芒'r Gymraeg gael eu bwydo i mewn i'r gwaith o baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

"Mae'r canllawiau yn golygu bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol ystyried y Gymraeg fel rhan o'u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol.

"Bydd rhaid iddyn nhw hefyd ymgynghori 芒'r comisiynydd iaith wrth baratoi ac adolygu'r cynllun."

'Polis茂au priodol'

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar dai a'r Gymraeg: "Rwy'n croesawu'r cyfarwyddyd a geir yn y canllawiau hyn a'r cyfle i awdurdodau cynllunio roi ystyriaeth ddyledus i'r Gymraeg.

"Erbyn hyn, mae'r angen i ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg o safbwynt economaidd-gymdeithasol yn cael ei gydnabod.

"Rhaid i awdurdodau sefydlu polis茂au priodol i fynd i'r afael 芒 hyn. Mae'n uchelgais gan Lywodraeth Cymru i greu cymunedau Cymraeg eu hiaith a chynnal y cymunedau hynny. Bydd y canllaw hwn yn helpu gwireddu'r uchelgais."

Ychwanegodd y Cynghorydd Neil Rogers, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar faterion cynllunio: "Bydd awdurdodau cynllunio lleol ar draws Cymru'n gwerthfawrogi'r canllawiau hyn.

"Mae'n dangos sut y gall y system gynllunio chwarae ei rhan wrth greu'r amodau cymdeithasol ac economaidd priodol i gynorthwyo cymunedau Cymraeg eu hiaith i ffynnu."

'Cwestiynau'

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws: "Mae cael trefn gadarn ac eglur i ystyried y Gymraeg yn y broses gynllunio o'r pwys mwyaf, ac yr wyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru sawl gwaith i ddiwygio'r nodyn cyngor presennol.

"Mae datganiad y gweinidog heddiw yn codi nifer o gwestiynau - er enghraifft, beth fydd yn digwydd hyd nes bod y 'canllaw ymarferol pellach' yn cael ei gyhoeddi?

"Beth sydd yn digwydd i'r cynlluniau datblygu lleol sydd yn yr arfaeth?

"Byddaf yn mynd ati i drefnu cyfarfod buan gyda'r gweinidog a'i swyddogion i geisio atebion i'r cwestiynau uchod a mwy."