Disgwyl cyhoeddi bandiau ysgolion 2013

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r flwyddyn olaf o fandio dan y system bresennol cyn adolygiad y flwyddyn nesaf
  • Awdur, gan Arwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd Addysg 麻豆官网首页入口 Cymru

Ers 2011 mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru wedi cael eu rhoi mewn gr诺p bandio o un i bump.

Dyma'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn asesu perfformiad ysgol mewn blwyddyn academaidd; band 1 yw'r gorau a band 5 yw'r gwaethaf.

Mae wedi cael ei ddechrau fel ffordd o adnabod lle mae ysgolion yn methu, a beth sydd angen ei wneud i wella'r sefyllfa.

Mae bandio yn gweithio drwy asesu perfformiad ysgol o fewn pedwar adran i greu un sg么r terfynol:

  • Canran y disgyblion sy'n ennill pump TGAU o radd A* i C, yn cynnwys Cymraeg, Saesneg neu fathemateg;
  • Yr wyth canlyniad TGAU gorau i ddisgyblion;
  • Perfformiad disgyblion lefel TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg;
  • Presenoldeb.

O fewn pob categori, mae sg么r ysgol yn cael ei addasu i ystyried canran y plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. Mae hyn er mwyn cydnabod yr heriau o redeg ysgol mewn ardal ddifreintiedig.

Mae'r rhan fwyaf o gategor茂au hefyd yn ystyried gwelliant yr ysgol dros amser, i wobrwyo ysgolion sydd yn gwella eu perfformiad.

Mae hyn yn golygu bod ysgolion yn cael eu hasesu mewn 11 categori gwahanol i gyd.

Newidiadau ar y ffordd

Ond mae newidiadau ar eu ffordd. Roedd disgwyl i'r system bresennol gael ei hadolygu wedi tair blynedd, ac mae'r amser yna ar ben. Felly, yn y flwyddyn newydd bydd y llywodraeth yn adolygu sut mae'r system bandio yn gweithio.

Un ardal sy'n debyg o gael ei chynnwys mewn system newydd yw tlodi. Ydi, mae nifer y plant sy'n cael cinio am ddim eisoes yn cael ei gyfri', a'r cynnydd y mae'r plant yna yn ei wneud yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Ond ers i Huw Lewis ddweud yn ddiweddar bod angen canolbwyntio mwy ar dlodi mewn addysg, mae'n debyg y bydd mwy o bwyntiau i ysgolion sy'n gwneud mwy i wella perfformiad y plant tlotaf.

Elfen arall o'r system fandio sydd wedi cael ei feirniadu yw'r ffaith bod ysgolion yn tueddu i neidio safle - gyda rhai ysgolion yn gweld newid mawr o flwyddyn i flwyddyn.

Er enghraifft, roedd Ysgol Tryfan ym Mangor ar frig rhestr yr ysgolion yn 2011, ond disgynnodd i fand 4 y llynedd.

Yn 么l undebau, mae hyn yn dangos nad yw'r system yn dangos gwir berfformiad yr ysgolion.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud bod hynny yn dangos holl bwynt y system. Bydd ysgolion sy'n cael eu rhoi yn y bandiau yma yn symud, ond y llynedd, roedd tri chwarter o ysgolion wedi aros yn yr un band.

Maent hefyd yn dweud bod y ffaith bod gymaint o ysgolion band 4 a 5 yn 2011 wedi llwyddo i godi i fyny'r tabl yn dangos bod y system yn gweithio.

Dadleuol

Mae canolbwyntio ar blant tlawd hefyd yn fater dadleuol i ysgolion mewn ardaloedd mwy cyfoethog. Efallai mai nhw sy'n cael y canlyniadau gorau, gyda disgyblion gyda phresenoldeb uchel iawn, ond maen nhw'n cael eu hystyried fel ysgol ganolig oherwydd ychydig iawn sy'n cael prydau am ddim.

Yr hyn sy'n dueddol o gael ei golli wrth ffraeo am fandio yw bod llawer o gefnogaeth yn cael ei roi i ysgolion sy'n perfformio waethaf; mae ysgol band 5 yn cael 拢10,000 er mwyn gwella eu perfformiad.

Mae ysgolion hefyd yn cael cynghorwyr sy'n gallu rhoi cefnogaeth yn y modd gorau i hybu perfformiad.

Am y tro cyntaf, rydw i'n deall bod ysgol wedi neidio o fand 5 i 1 eleni. Mae hynny yn dipyn o gamp.

Ond lle byddai'r ysgol yna wedi derbyn nifer fawr o gymorth a chefnogaeth yn y gorffennol, bydd hynny nawr yn dod i ben ar unwaith.

Mae swyddogion yn dweud wrtha i y byddai hi'n anodd iawn i'r ysgol gadw ei safle.

Dyna yw dioddef oherwydd eich llwyddiant eich hun.