麻豆官网首页入口

Cyhoeddi adroddiad am ad-drefnu cynghorau

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau cyhoeddus
Disgrifiad o鈥檙 llun,

22 awdurdod lleol Cymru sy'n gyfrifol am nifer fawr o wasanaethau cyhoeddus

Mae adroddiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, y cam cynta' yn y broses o leihau nifer cynghorau Cymru.

Y disgwyl yw bod Comisiwn Williams yn argymell 12 neu lai o gynghorau yn lle 22.

Wrth ad-drefnu bydd angen dilyn canllawiau penodol.Mae'r gwrthbleidiau wedi dweud eu bod yn poeni am gostau unrhyw ad-drefnu a'r bygythiad i hunaniaeth leol.

Awdur yr adroddiad yw cyn Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru Paul Williams, a'r nod yw ystyried gwella agweddau ar wasanaethau cyhoeddus a'u gwneud yn fwy atebol.

Eisoes mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ar raglen Sunday Politics fod "gormod o gynghorau".

"Roedd chwech ohonyn nhw o dan fesurau arbennig oherwydd problemau addysg," meddai.

'Diflannu'

"Fydd hyn ddim yn gynaliadwy ac mae angen ystyried o ddifri' strwythur nid yn unig llywodraeth leol ond holl wasanaethau cyhoeddus Cymru."

Dywedodd AC Ceidwadol Mynwy Nick Ramsay na ddylai gweinidogion "ruthro i mewn i drefniant costus na fyddai efallai yn cwrdd 芒 disgwyliadau pobl.

"Mae'n bosib' y bydd ardaloedd y mae pobl yn uniaethu 芒 nhw yn diflannu.

"Yn sicr, mae angen bod yn ofalus iawn."

Mewn taflen newyddion mae AS Ceidwadol Preseli Penfro Stephen Crabb wedi dweud: "Ymladdodd pobl leol yn galed i greu awdurdod lleol eu hunain wedi i Ddyfed ddod i ben.

"Mae'r un dadleuon mor ddilys heddi' ag erioed."

'Cyfle gwych'

Ym marn mudiad Dyfodol i'r Iaith, gallai gweithredu argymhellion Comisiwn Williams fod yn gyfle i wella gwasanaethau yn y Gymraeg.

Yn ei dystiolaeth i'r Comisiwn, dywedodd y mudiad y dylai strwythur ieithyddol Cymru fod yn ystyriaeth mewn unrhyw drafodaethau am ad-drefnu llywodraeth leol.

Dywedodd cadeirydd y mudiad Heini Gruffydd: "Dyma gyfle gwych i gynghorau yng Nghymru ddod at ei gilydd i wella eu darpariaeth o wasanaethau i'w trigolion yn y Gymraeg.

"Drwy rannau adnoddau a staff ar draws y ffiniau presennol mae potensial i ddarparu gwasanaethau gwell, er enghraifft, mewn gofal cymdeithasol ac anghenion addysgiadol arbennig.

"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd uno cynghorau o natur ieithyddol tebyg yn arwain at fwy o weinyddu mewnol yn y Gymraeg.

"Mae angen i'r Gymraeg fod yn brif iaith weinyddol i holl awdurdodau gorllewin Cymru gan ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd."

15,000 o swyddi

Yn eu tystiolaeth i'r comisiwn mae'r Gymdeithas Lywodraeth Leol wedi amcangyfri' y byddai 15,000 o swyddi'n diflannu oherwydd yr ad-drefnu.

Dywedodd y mudiad y byddai'r newidiadau'n costio mwy na 拢200m.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol Rhodri Glyn Thomas wedi dweud y bydden nhw o blaid ad-drefnu wedi ei seilio ar "dystiolaeth wrthrychol annibynnol".

"Mae angen ystyried yr hyn all gael ei gyflawni'n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol ... wedyn bydd y strwythurau yn disgyn i'w lle."

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod angen newid trefn bleidleisio etholiadau lleol a bod angen rheoli costau newidiadau.

Yn 么l eu llefarydd Peter Black: "Rwy' o blaid ad-drefnu os yw'r cynghorau'n gynrychioliadol ..."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol