麻豆官网首页入口

Ad-drefnu: Colli 15,000 o swyddi?

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau cyhoeddus
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae awdurdodau lleol Cymru yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau cyhoeddus o gasglu sbwriel i ofal cymdeithasol ac addysg i gynnal priffyrdd

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn honni y gallai ad-drefnu llywodraeth leol olygu cwtogi'r gweithlu o tua 15,000 o swyddi.

Yn 么l amcangyfrifon fe allai cost yr ad-drefnu yng ngwledydd Prydain fod yn fwy na 拢200 miliwn.

Ddydd Llun mae disgwyl i Gomisiwn Williams - a sefydlwyd i ystyried llywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - gyhoeddi adroddiad am yr ad-drefnu cyntaf o lywodraeth leol ers bron 20 mlynedd.

Yn ystod yr hydref dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad yw'n gwybod am unrhyw un sy'n dadlau dros gadw'r 22 awdurdod lleol ar eu ffurfiau presennol.

'Arbedion sylweddol'

Cafodd yr amcangyfrifon am gost a cholli swyddi eu cynnwys yng nghyflwyniad C.Ll.L.C. i'r adolygiad gan y Comisiwn.

Fe ddywed y cyflwyniad: "Gan mai'r gweithlu yw'r ased mwyaf mewn llywodraeth leol o safbwynt cost ac adnoddau, fe allai cwtogiad sy'n deillio o raddfeydd mwy a diddymu dyblygiad arwain at arbedion sylweddol.

"Mae'n bosib na fydd gostyngiad o 10% yn cael ei ystyried yn afresymol. Gallai hyn olygu 15,000 o swyddi'n mynd ar draws rheolwyr a rhannau eraill o'r gweithlu naill ai drwy ymddeoliad, diswyddo gwirfoddol neu ddiswyddo arall.

"Nid yw hyn, wrth gwrs, yn cynnwys y swyddi allai gael eu colli dros y pum mlynedd nesaf o ganlyniad i doriadau."

Bil treth uwch?

Mae C.Ll.L.C. hefyd wedi comisiynu'r cwmni cyfrifwyr Deloittes i wneud ymchwil i'r gost o ad-drefnu.

Gan ddefnyddio esiamplau o ad-drefniadau eraill ar draws y DU, mae'r cwmni wedi cyhoeddi amcangyfrifon o'r gost posib yng Nghymru.

Maen nhw wedi cyhoeddi naw ffigwr gwahanol i ystyried dulliau gwahanol o ad-drefnu, ond mae'r ffigwr ar gyfartaledd dros 拢250 miliwn.

Aiff datganiad C.Ll.L.C. ymlaen i ddweud: "Yn seiliedig ar dystiolaeth o ad-drefniadau blaenorol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr fe allai'r gost fod yn unrhyw beth rhwng 拢200m a 拢400m ar brisiau 2016-17.

"Yn dilyn dull ad-drefniadau blaenorol yn Lloegr fe ddisgynnodd y gost ar y trethdalwr ac mae ymchwil Deloittes yn dangos y gallai goblygiadau benthyg ar gyfer cyllido cyfalaf roi rhwng 1% a 2% ar fil treth cyngor yn seiliedig ar ad-drefnu yn y gorffennol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr."

Ymateb

Ond dyw arweinydd cyngor M么n ddim yn sicr os mai ad-drefnu yw'r ffordd orau ymlaen yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn dweud y bydd angen gwario er mwyn ailstrwythuro, ond yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Ieuan Williams ei fod am weld yr arian yn cael ei wario yn wahanol.

"Dwi'n credu bod angen i ni wario hwnnw i arbed cau canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, ac agenda hyrwyddo iechyd i atal pobl fynd yn s芒l," medddai.

"Dydyn ni ddim am gael dim byd allan o wario'r 拢400m yma."

Mae Mr Williams yn dweud bod angen canolbwyntio ar y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan gynghorau, yn lle "poeni am strwythurau" awdurdodau.

"Be 'dani eisiau ydi edrych ar lle mae'r diffyg sy'n creu anghysondeb mewn gwasanaethau.

"Be' sy'n gyrru adolygiad Syr Paul Williams ydy'r anghysondeb mewn addysg, ond mae cynghorau bach yn gallu troi hynny o gwmpas yn sydyn iawn.

"Mi odd Sir Ddinbych mewn mesurau arbennig yn 2008, nhw r诺an ydi un o'r cynghorau mwyaf llwyddiannus mewn addysg.

"Mae ganddo ni'r cyngor mwyaf yng Nghymru, Caerdydd, sydd hefo'r trafferthion mwyaf yng Nghymru.

"Felly mae'r dystiolaeth yn dweud nad cynghorau mawr sy'n llwyddiannus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol