Comisiwn Williams: '12 neu lai' o gynghorau lleol

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae 22 awdurdod lleol yn gyfrifol am nifer fawr o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Dylai nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu cwtogi o 22 i naill ai 10, 11 neu 12, yn 么l adroddiad gan Gomisiwn Williams.

Mae'r comisiwn - sydd wedi bod yn ystyried sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu darparu yn y dyfodol - wedi gwneud 62 o argymhellion i gyd.

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn dweud bod angen newid "ar frys", ac y dylai'r broses o uno cynghorau gael ei chwblhau erbyn 2017-18.

Pa gynghorau?

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell pa gynghorau ddylai uno :-

  • Ynys M么n a Gwynedd;
  • Conwy a Sir Ddinbych;
  • Sir y Fflint a Wrecsam;
  • Ceredigion a Sir Benfro;
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr ;
  • Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful;
  • Caerdydd a Bro Morgannwg;
  • Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen;
  • Sir Fynwy a Chasnewydd ;

Byddai Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Powys a Chyngor Abertawe yn aros heb newid.

Fe fyddai'r newidiadau yma'n creu 12 cyngor, sef yr uchafswm y mae'r adroddiad yn argymell.

Y tu hwnt i hynny, fe ddywed yr adroddiad bod modd ystyried hefyd uno Abertawe gyda Chastell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr i ffurfio un awdurdod er mwyn creu cyfanswm o 11 cyngor.

Dewis arall fyddai uno Sir Gaerfyrddin gyda Cheredigion a Phenfro i greu un awdurdod. Fe fyddai gweithredu'r ddau ddewis ychwanegol yma yn creu 10 awdurdod.

Beirniadaeth

Er bod yr adroddiad yn pwysleisio nad yw'n beirniadu unrhyw gyngor unigol, mae'n feirniadol o'r strwythur presennol, gan ddweud:

"Mae cynllun a strwythur y sector cyhoeddus yn golygu cydberthnasau gorgymhleth rhwng gormod o sefydliadau, y mae rhai ohonynt yn rhy fach.

"Mae hynny'n creu ac yn cynnal gwendidau sylweddol o ran llywodraethu, rheoli perfformiad a diwylliant sefydliadol, neu o leiaf yn peri risg sylweddol o wneud hynny.

"Mae'r gwendidau hynny yn atgyfnerthu ei gilydd ac yn anodd eu dileu yn fewnol. Y canlyniad yw perfformiad gwael a thameidiog am fod dulliau darparu yn gwella'n rhy araf ac mewn modd anghyson, ac am nad oes 'llaw weladwy' yn llywio gwelliant."

Dywed yr adroddiad hefyd mai ychydig iawn o ddeialog strwythurol ynghylch diwygio'r system sydd wedi digwydd.

Mae hynny, medd yr adroddiad, yn golygu y bydd y pwysau a ddaw o galedi a newid demograffeg yn cynyddu, ac na fydd digon o adnoddau i ateb y galw cynyddol am wasanaethau yn y dyfodol cymharol agos.

Un o ganlyniadau mwyaf trawiadol yr adroddiad yw :

"Mewn geiriau eraill, gyda threigl amser mae'r gwendidau hunan barhaol hyn a ddisgrifiwyd yn debygol o dyfu'n gryfach a bydd yn anos mynd i'r afael 芒 hwy.

"Mae angen cymryd camau gweithredu brys a radical cyn ei bod yn rhy hwyr."

Disgrifiad o'r fideo, Barn prif weithredwr olaf hen gyngor Dyfed ar fantieison ac anfanteision cynghorau mwy.

'Heriau difrifol'

Dywedodd Syr Paul Williams, Cadeirydd y Comisiwn:

"Mae'n amlwg iawn fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu heriau difrifol a thaer. Byddant yn dal i deimlo effeithiau'r dirwasgiad a'r mesurau i arbed arian am flynyddoedd lawer.

"Ar yr un pryd, mae ein poblogaeth yn newid, sy'n golygu bod yr angen am rai o'n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf dwys a chostus yn si诺r o gynyddu.

"Mae angen gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddynt oroesi ar ffurf ymarferol a chynaliadwy.

"Mae'r problemau sydd wedi dod i'r amlwg yn rhan annatod o systemau, o brosesau ac o werthoedd y sector cyhoeddus, fel y mae.

"Gobeithio y caiff ein hargymhellion eu mabwysiadu yn eu cyfanrwydd - ni fyddant yn datrys y problemau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru o'u gweithredu ar wah芒n."

Gair o rybudd

Daeth croeso gofalus i'r adroddiad hefyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi eu hadroddiad eu hunain o'r enw Catch 22, mae'r gymdeithas wedi codi pryder y gallai cynghorau mwy o ran maint wanhau democratiaeth leol, ac maen nhw'n rhybuddio Llywodraeth Cymru i beidio brysio i weithredu'r argymhellion.

Dywedodd cyfarwyddwr ERS Cymru Steve Brooks:

"Mae perygl wrth symud tuag at uno y gallai democratiaeth leol ddiodde'. Gallai cynghorau mwy olygu teimlad o ddiffyg cysylltiad gyda thrigolion, ac fe alle'n nhw deimlo'n llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

"Mae tystiolaeth o Ewrop yn awgrymu y gallai hynny danseilio hyder y cyhoedd mewn llywodraeth leol a'i allu i ymateb i anghenion lleol.

"Mae Comisiwn Williams yn ateb y pryderon yma, ond yn ei frys i ad-drefnu mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru gymryd amser i warchod ymrwymiad democrataidd lleol.

"Dylid cyflwyno cynlluniau i roi p诺er go iawn i gymunedau i wneud penderfyniadau lleol.

"Dylai gweinidogion Cymru hefyd ailystyried Comisiwn Sunderland yn 2002 oedd yn argymell system bleidleisio deg ar gyfer llywodraeth leol.

"Heb ddiwygiad etholiadol mae perygl ychwanegol y gallai'r cynghorau mawr yma ddod yn wladwriaethau un blaid, gan waethygu trafferthion llywodraethol awdurdodau lleol."