Prifathrawon yn anfon llythyr beirniadol at Huw Lewis

Mae ffrae yn corddi rhwng prifathrawon yn Rhondda Cynon Taf a'r Gweinidog Addysg o ganlyniad i ganlyniadau TGAU Saesneg Iaith siomedig.

Mae penaethiaid bob un o'r 19 ysgol uwchradd yn sir a'r cyfarwyddwr addysg wedi llofnodi llythyr at Huw Lewis yn dweud wrtho fod rhieni yn colli hyder yn y gyfundrefn arholiadau.

Ond mae Mr Lewis wedi gwrthod y feirniadaeth.

Mae'r llythyr yn dweud fod ysgolion wedi gweld gostyngiad o 25% ar gyfartaledd yn y nifer o ddisgyblion gafodd gradd C neu uwch.

Yn 么l y llythyr mae hyn wedi cael effaith negyddol ar agwedd a pherfformiad disgyblion.

Mae'r llythyr hefyd yn dweud fod rhieni a disgyblion yn colli hyder yn y gyfundrefn arholiladau, cyfundrefn oedd unwaith yn cael ei gweld fel un dibynadwy.

Mae yna hefyd, medd y llythyr, erydiad yn hyder rhieni ym mhroffesiynoldeb athrawon.

Gofynna'r llythyr am i ddisgyblion gael ail-eistedd yr arholiad, ac i'r awdurdodau ailfeddwl am fformat yr arholiad.

Ond mewn datganiad mae Huw Lewis yn cyhuddo'r prif athrawon o godi ofn, gan ychwanegu fod yna arolwg brys yn cael ei gynnal o ganlyniadau TGAU Saesneg Iaith.

Galwodd ar brif athrawon i helpu dod o hyd i'r rhesymau pam fod y canlyniadau yn wael neu ystyried beth allan nhw wedi ei wneud yn well er mwyn codi graddau'r disgyblion.