麻豆官网首页入口

CBAC i ailfarcio papurau arholiad

  • Cyhoeddwyd
arholiadau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgyblion, rhieni ac athrawon wedi bod yn cwyno bod y canlyniadau yn llawer is nag yr oedden nhw wedi'i ddisgwyl.

Bydd CBAC yn ailfarcio rhai o'r papurau arholiadau TGAU Saesneg Iaith yn dilyn adolygiad mewnol.

Mae CBAC wedi darganfod bod marcio un arholwr yn anghyson, ac y byddan nhw'n ailfarcio gwaith yr arholwr hwn yn llawn.

Mae'r canolfannau lle cafodd gwaith ei farcio gan yr arholwr hwn wedi cael gwybod.

Dywedodd CBAC fod 6 o ganolfannau wedi cael eu heffeithio gan farcio anghyson yr arholwr, gyda 318 o bapurau wedi cael eu hail-farcio o achos yr anghysonderau - sydd yn llai na 1% o'r papurau gafodd eu marcio.

Mae CBAC hefyd wedi darganfod bod problem wedi bod wrth adio cyfanswm marciau papurau dau ymgeisydd.

Maen nhw wedi cywiro hyn ac wedi hysbysu'r canolfannau perthnasol.

Canlyniadau siomedig

Penderfynodd CBAC gynnal adolygiad mewnol o'r marcio yn dilyn rhyddhau canlyniadau TGAU Saesneg Iaith Uned 1 ac Uned 2 ym mis Ionawr.

Roedd cwyno gan rai ysgolion bod canlyniadau disgyblion yn siomedig o isel, llawer yn is na'r hyn roedden nhw wedi'i ddisgwyl.

Dywedodd Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC: "Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am gyfle cynnar i adolygu agweddau allweddol ar y dyfarniad, yn enwedig ei berthynas 芒'r dull 'canlyniadau cymaradwy' y cadarnhawyd ganddynt fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dyfarniad yr haf.

"Deallwn fod yr athrawon a'r disgyblion fel ei gilydd wedi cael cyfnod gofidus. Gobeithiwn allu eu sicrhau ein bod, ynghyd 芒 Llywodraeth Cymru, yn gweithredu i asesu ac adfer y sefyllfa hon yn sgil yr adolygiad hwn ac ymarfer canfod ffeithiau'r Llywodraeth.

"Mae CBAC wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi safonau addysg uchel i ddysgwyr yng Nghymru, gan gyflwyno cymwysterau sy'n fanwl gywir, teg a gwerthfawr."

Dyma oedd y flwyddyn gyntaf i'r cwrs, sy'n benodol i Gymru, gael ei gynnal.

Roedd y papurau arholiad hyn wedi cael eu haddasu eleni, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar gywirdeb iaith a gramadeg.

Dywedodd Owen Hathway, Swyddog Polisi undeb athrawon yr NUT yng Nghymru:

''Mae'n bositif fod yr anghysonderau yn rhai o'r marciau wedi cael eu hadnabod a bod CBAC wedi rhoi ymrwymiad i fynd i'r afael 芒'r pryderon hynny. Mae'n bwysig nawr fod LLywodraeth Cymru yn cwblhau eu hadolygiad eu hunain i'r sefyllfa mor sydyn 芒 phosib a chyhoeddi eu darganfyddiadau er mwyn i'r ffeithiau gael eu hasesu.

''Mae athrawon a disgyblion yn parhau i fod bron mewn sefyllfa o limbo ac rwyf yn siwr fod pawb am weld y camau priodol yn cael eu cymryd er mwyn cydnabod ymrwymiad y disgyblion sydd yn sefyll yr arholiadau hyn a safon eu gwaith.''