Addysg: 'Dim gweledigaeth hir dymor'

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, OECD sy'n cyfrifol am drefnu profion Pisa
  • Awdur, gan Arwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd Addysg 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae arolwg cynhwysfawr o addysg yng Nghymru yn dweud fod gan lywodraeth Cymru ddiffyg gweledigaeth hir dymor a bod angen gwneud mwy i gefnogi athrawon.

Daw'r arolwg ar 么l i Lywodraeth Cymru ofyn i'r OECD, sefydliad o bwys rhyngwladol, ymchwilio i'r gyfundrefn addysg.

Mae'r arolwg yn cydnabod fod yna lawer wedi ei wneud ond bod yna ddiffyg gweledigaeth hir dymor.

Ym mis Rhagfyr, Cymru oedd a'r canlyniadau gwaethaf ymhlith gwledydd Prydain yn 么l profion gan sefydliad Pisa.

Dywed arolwg dydd Iau: "O safbwynt rhyngwladol, roedd perfformiad disgyblion 15 oed yng Nghymru ar brofion Pisa yn isel, ac mae yna ormod o fyfyrwyr yn perfformio ar lefelau isel.

Lefelau isel

"Fe wnaeth asesiadau Pisa 2012 ar gyfer gwyddoniaeth a darllen ddangos fod bron i "20% o fyfyrwyr Cymru wedi methu a chyrraedd lefel 2. Hwn yw'r lefel sy'n cael ei ystyried fel yr isaf ar gyfer dangos fod myfyrwyr yn dechrau dangos cymwyseddau

"Roedd y canran ar gyfer mathemateg yn uwch, bron i 30%. Rhain yw rhai o'r lefelau isaf ymhlith gwledydd OECD."

Ar ochr fwy cadarnhaol, dywed yr adroddiad fod ysgolion yng Nghymru yn cynnig amgylchedd addysgu positif, a bod yna berthynas dda rhwng myfyrwyr ac athrawon.

Yn dilyn cyfres o brofion siomedig gan Pisa yn 2009 fe benderfynodd Llywodraeth Cymru ar nifer o newidiadau i geisio codi safonau.

Ym Mai 2013, fe gafodd profion statudol ar gyfer darllen a rhifyddeg eu cyflwyno ar gyfer disgyblion o flwyddyn dau i flwyddyn naw.

Gwneud gormod

Ond yn 么l yr adroddiad roedd llywodraeth Cymru wedi ceisio gwneud gormod mewn amser rhy fyr.

Dywed yr adroddiad fod yna ddiffyg gweledigaeth hir dymor er mwyn llywio newidiadau.

Fe wnaeth arolygwyr OECD gwrdd 芒 nifer o brifathrawon ac eraill o fewn y maes.

"Y teimlad ymhlith y rhain oedd bod y nifer mawr (o newidiadau) a'r amser cyfunedig i weithredu newidiadau yn creu risg y byddai'r newidiadau ond yn cael eu cwblhau yn rhannol," meddai'r adroddiad.

Un o'r newidiadau mwyaf dadleuol i'w cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn 2011 oedd y sustem bandio.

Beirniadaeth

Mae undebau athrawon yn dadlau nad yw'r drefn yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn ysgolion a bod disgwyliadau yn newid o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r adroddiad yn cytuno gyda llawer o'r feirniadaeth gan ddweud y dylai llywodraeth Cymru: "ystyried gwneud y modd mae bandiau yn cael eu gosod yn fwy tryloyw...

Mae'r adroddiad hefyd yn feirniadol o safonau athrawon yng Nghymru, gan ddweud fod yna ddiffyg opsiynau er mwyn i athrawon ddatblygu yn eu gyrfaoedd.

Yn 么l yr adroddiad mae angen i'r proffesiwn ddenu mwy o barch, gan ategu sylwadau a wnaed gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis.

Yn 么l yr adroddiad mae'n bosib bod ysgolion yn ei chael hi'n anodd denu athrawon o safon, oherwydd safon y myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau hyffordd.

Yn y gorffennol mae sawl gweinidog addysg yng Nghymru wedi rhoi pwyslais ar fynd i'r afael a'r cysylltiad rhwng tlodi a diffyg cyrhaeddiant addysgol.

Mae yna nifer o gynlluniau sy'n ceisio codi safonau disgyblion o gefndiroedd difreintiedig.

Ond yn 么l yr adroddiad roedd y system yn rhy gymhleth "ac yn methu yn y dasg o sicrhau fod gan ysgolion y ffynhonnell ariannol sefydlog sydd ei angen er mwyn mynd i'r afael ag anghenion disgyblion."

Mae'r adroddiad yn s么n am fabwysiadu systemau cyllido mwy syml er mwyn helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.

Wrth ymateb i gasgliadau'r adroddiad dywedodd Huw Leiws "Os yda chi angen y gorau , yna mae'n rhaid i chi ddysgu o'r gorau. Felly rwy'n diolch i OECD am yr adroddiad manwl yma..

"Rwy'n falch ein bod eisoes yn gwneud sawl peth sydd yn cael ei argymell yn yr adroddiad. Mae'n dda i weld ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

"Rwy'n derbyn yr argymhellion sy'n s么n am welliannau ar gyfer hyfforddi athrawon."

Dywedodd ei fod hefyd yn derbyn yr alwad am sicrhau nifer fechan o amcanion hir dymor.

"Rydym yn deall yr her rydym yn ei wynebu yng Nghymru, a dyw'r adroddiad ddim yn syndod yn hynny o beth."

Fe fydd Mr Lewis yn mynychu pwyllgor addysg OECD ym Mharis i drafod yr adroddiad ddiwedd yr wythnos.

Dywedodd NUT Cymru y byddai angen amser er mwyn astudio cynnwys yr adroddiad yn fanwl.

"Er hyn mae yna nifer o argymhellion clir, sy'n cydfynd a'r hyn mae NUT Cymru wedi bod yn ei ddweud ers peth amser, " meddai Owen Hathway, swyddog polisi Cymru.

"Mae angen gwell cefnogaeth i'r sector wrth gyflwyno syniadau newydd..."

Dywedodd Dr Phil Dixon, cyfarwyddwr Undeb ATL, fod yr adroddiad yn amlwg yn feirniadol o weledigaeth hir dymor y llywodraeth a'r "anallu i gynllunio yn strategol."