Deddf lleihau digartrefedd yn dod i rym

Bydd deddf sy'n ceisio gostwng nifer y bobl digartref yng Nghymru yn dod i rym ddydd Llun.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai prif amcan Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yw sicrhau bod pobl ddigartref neu bobl sy'n wynebu dod yn ddigartref yn derbyn cymorth cyn gynted 芒 phosib.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gydweithio gyda phobl sy'n wynebu colli eu cartrefi o fewn 56 diwrnod, a hynny er mwyn ceisio datrys eu problemau.

Yn ogystal bydd fwy o hyblygrwydd i alluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio tai sy'n cael eu rhentu'n breifat i ddarparu llety i bobl sy'n wynebu dod yn ddigartref.

'Carreg filltir'

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths bod y ddeddf yn "garreg filltir".

"Hon yw'r ddeddf gyntaf o'i math yn y DU, a'r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth yn ymwneud 芒 digartrefedd ers dros 30 mlynedd.

"Rydw i'n cydnabod yr her sy'n wynebu'r rheiny sy'n gweithio yn y sector tai, gyda phwysau parhaus ar gyllidebau cyhoeddus, cynnydd mewn costau byw a chynnydd yn y galw am dai fforddiadwy."

Ychwanegodd: "O heddiw ymlaen, bydd mwy o sylw'n cael ei roi i'r rhesymau pam bod pobl mewn perygl o golli eu cartrefi, ynghyd 芒 gweithredu cynharach er mwyn sicrhau bod teuluoedd, plant a phobl fregus eraill sy'n wynebu colli eu cartrefi yn derbyn cymorth i sicrhau bod eu bywydau'n cael eu heffeithio cyn lleied 芒 phosib."

Dan y ddeddf newydd mae hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r diwydiant tai - gan gynnwys cymdeithasau tai a'r sector rhentu preifat - gydweithio'n agosach.