麻豆官网首页入口

Canolfan Saith Seren yn Wrecsam i aros ar agor

  • Cyhoeddwyd
Saith Seren
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Saith Seren

Mae trefnwyr yr ymgyrch i gadw Canolfan Gymraeg Saith Seren ar agor yn Wrecsam wedi dweud eu bod nhw wedi codi digon o arian i gadw'r drysau ar agor

Dywed y trefnwyr eu bod wedi sicrhau addewidion o 拢3,000 y mis gan unigolion a chwmn茂au.

Pum wythnos yn 么l fe gafodd y trefnwyr rybudd landlord i adael yr adeilad.

Dywed y trefnwyr eu bod wedi codi cronfa o 拢10,000 gan gyfraniadau unigol yn ogystal 芒 chyrraedd eu targed o addewidion o 拢3,000 y mis.

Dywedodd Marc Jones, sy'n cadeirio'r fenter gydweithredol gymunedol: "Rydan ni wedi'n syfrdanu gan y gefnogaeth gan bobl yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i'r ap锚l yma.

Cynllunio tymor hir

"Mae'n dangos bod, beth bynnag mae unrhyw un arall yn meddwl, mae'r bobl am iddo lwyddo ac aros ar agor.

"Fel bwrdd, byddwn yn cyfarfod nos Fawrth er mwyn trafod y dyfodol yn fwy manwl ond - fel y mae pethau - gallwn ddweud yn hyderus y bydd Saith Seren yn dal i fod ar agor ar 么l y penwythnos nesaf. "

Ychwanegodd bod yna "fwyell wedi bod yn hongian dros ein pennau" a bod hynny wedi gwneud cynllunio tymor hir yn anodd iawn.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y sicrwydd ariannol newydd yn rhoi hwb i ddyfodol y ganolfan.

"Rydan ni'n hyderus y bydd hyn yn helpu i ddenu mwy o bobl i'r ganolfan a'i wneud yn hyfyw fel busnes gweithredol," meddai Mr Jones.

"Mae ganddon ni uchelgais i ddatblygu'r ganolfan ymhellach a'i wneud yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a dosbarthiadau.

"Mae bwrdd y fenter, sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi, nid yn unig dros y mis diwethaf ond dros y tair blynedd yr ydym wedi bod yn agored hyd yn hyn.

"Yn fwy na neb hoffwn ddiolch i Aran Jones, o SaySomethinginWelsh.com, wnaeth gychwyn yr ap锚l a chyrraedd dysgwyr o bob cwr."