Deon Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi ymddiswyddo

Ffynhonnell y llun, The Waterfront

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd yr Athro Nigel Piercy ei benodi yn Ddeon yr Ysgol Reolaeth yn haf 2013

Mae Deon Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, Nigel Piercy, wedi ymddiswyddo o'i r么l.

Mewn e-bost gafodd ei yrru i staff fore Gwener, dywedodd Mr Piercy ei fod yn camu o'i swydd oherwydd "gwahaniaethau" gyda'r brifysgol.

Daw'r datblygiad wedi i 麻豆官网首页入口 Cymru adrodd honiadau bod y Deon wedi bwlio, eithrio ac aflonyddu ar rai aelodau o staff.

Fe gafodd yr Athro Nigel Piercy ei benodi yn Ddeon yr Ysgol Reolaeth yn haf 2013.

Fe welodd 麻豆官网首页入口 Cymru ddogfen sy'n dangos bod 23 aelod o staff academaidd wedi gadael ers hynny.

Ychwanegodd Sir Roger Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe, bod deon dros dro'n mynd i gael ei apwyntio yn sgil ymddeoliad yr Athro Nigel Piercy.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod yr Athro Marc Clement wedi ei benodi i'r swydd dros dro. Mi fydd yn dechrau ar ei waith ddydd Llun, Gorffennaf 24.

'Ofn parhaol'

Dywedodd rhai o gydweithwyr yr Athro Nigel Piercy ei fod yn gyrru rhai i weithio mewn swyddfa wahanol, i adeilad gwahanol. Roedd y gweithwyr yn cyfeirio at adeilad Richard Price fel "Guantanamo".

Dywedodd academydd sydd bellach wedi gadael y brifysgol "bod 'ofn' parhaol, wnaeth ddechrau troi'n ddiwylliant o fwlio."

Mewn adroddiad ar yr ysgol, fe ddaeth y canghellor Syr Roderick Evans i'r canlyniad y dylai uwch-d卯m rheoli'r brifysgol gynnal ymchwiliad i'r Ysgol Reolaeth.

Fel rhan o'r ymchwiliad, fe gafodd fforwm ei gynnal i staff leisio eu pryderon yn agored - gyda honiadau pellach yn cael eu gwneud. Mae'r ymchwiliad yn parhau.