Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adeiladau gwag: Y Llywodraeth yn taro targed trwsio tai
Mae buddsoddiad o 拢20m er mwyn achub tai gwag wedi bod yn llwyddiant ysgubol, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Tarodd y prosiect Troi Tai'n Gartrefi ei nod o adnewyddu 5,000 o dai flwyddyn yn gynnar. Mae dros 7,500 o adeiladau gwag wedi'u trwsio hyd yn hyn.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau Lesley Griffiths ei bod yn falch a'i bod yn bwriadu clustnodi 拢10m arall ar gyfer y fenter.
Ond yn 么l y Democrat Rhyddfrydol Peter Black AS, mae canu clodydd y fenter yn "chwerthinllyd" gan fod y nifer o dai gwag ar y cyfan wedi cynyddu.
Fandaliaeth
Mae cynghorau lleol wedi defnyddio'r arian sydd ar gael i roi benthyciadau i berchnogion tai fel eu bod yn gallu adnewyddu eu hadeiladau i'w rhentu neu eu gwerthu.
Yn siarad ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, croesawodd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd, y "cynnydd angenrheidiol" yn y nifer o dai yn sgil y prosiect.
Ychwanegodd bod y cynllun hefyd yn "cael gwared 芒 phroblemau fel fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd ynghlwm ag adeiladau gwag".
Honnodd Mr Black, llefarydd tai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mai cytundeb rhwng ei blaid a'r llywodraeth cyn cyllideb 2012 a arweiniodd at y buddsoddiad sylweddol yn y prosiect.
Dywedodd hefyd bod "gweld y llywodraeth yn llongyfarch eu hunain fel hyn yn chwerthinllyd, o ystyried eu bod nhw wedi cyfaddef fod y nifer o adeiladau gwag wedi cynyddu ers i'r fenter gychwyn".
Mewn dadl yn y Siambr fis Tachwedd y llynedd, dywedodd Ms Griffiths mai'r rheswm dros y cynnydd yn y nifer o adeiladau gwag yn y sector breifat oedd bod awdurdodau lleol yn casglu data'n fwy trylwyr.
Galwodd Mr Black ar y llywodraeth i ddatblygu strategaeth tai gwag cenedlaethol, gan ddweud y bydd delio 芒'r tai gwag sy'n weddill "yn fwy o her na'r 7,500 cyntaf".