Rhybudd nad oes terfyn i doriadau cynghorau

Mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau yng Nghymru'n dweud na fydd toriadau llywodraeth leol yn diflannu er gwaetha'r setliad cyllideb gorau ers pum mlynedd.

Roedd Steve Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn siarad cyn i Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, gyhoeddi union fanylion yr arian y bydd pob cyngor yn ei dderbyn.

Y llynedd, bu beirniadaeth o'r ffaith fod awdurdodau gwledig fel Powys, Ceredigion a Sir Fynwy wedi wynebu toriadau llawer uwch nag ardaloedd trefol a dinesig.

Fodd bynnag, mae Steve Thomas y tro yma'n meddwl na fydd yna amrywiaeth fawr yn setliadau pob cyngor oherwydd y modd y maen nhw'n cael eu cyfrifo.

Wrth gyhoeddi'r gyllideb ddydd Mawrth, cyhoeddodd Mr Drakeford y bydd yna gynnydd ariannol bychan yn nawdd cynghorau, er y bydd yn disgyn i -1.5% ar 么l ystyried chwyddiant.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Steve Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae 'na benderfyniadau mawr yn wynebu awdurdodau lleol

Disgrifiodd Steve Thomas y setliad fel un "heriol ond teg."

Dywedodd: "Fydd y toriadau ddim yn diflannu. Mae'r pwysau enfawr a'r amseroedd caled ar awdurdodau lleol yn parhau.

"Dydyn nhw ddim wedi mynd i ffwrdd, ac mae yna ddewisiadau mawr yn wynebu llawer o awdurdodau.

"Beth sydd gyda ni yw cyllideb synhwyrol, ac er y bydd pawb yn ei gweld hi fel hynny, fydd 'na ddim dawnsio yn y strydoedd."

Mae cynrychiolwyr llywodraeth leol wedi bod yn lob茂o'n gryf cyn y gyllideb, wedi i gynghorau gwyno eu bod yn colli allan yn ariannol i'r gwasanaeth iechyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhybuddiodd swyddog o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n gynharach yn y mis y gallai'r gost o reoli cynghorau Cymru gynyddu 拢200m dros y blynyddoedd nesaf.