麻豆官网首页入口

Dim gorfodi cydweithio rhanbarthol i gynghorau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies

Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies wedi cadarnhau y bydd yn diddymu rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ad-drefnu cynghorau.

Dywedodd wrth Aelodau Cynulliad na fyddai'n eu gorfodi nhw i gydweithio ar lefel ranbarthol.

Roedd wedi bod yn un o brif amodau'r newidiadau arfaethedig gafodd eu cynnig gan ei ragflaenydd, Mark Drakeford.

"Dwi ddim am orfodi hyn ar lywodraeth leol os nad ydyn nhw eisiau hyn, ac maen nhw wedi'i gwneud hi'n hollol glir nad ydyn nhw eisiau symud i'r cyfeiriad yma," meddai.

Trafodaeth ehangach

Roedd cydweithio rhanbarthol gorfodol yn rhan o bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu cynghorau, oedd hefyd yn cynnwys rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 oed.

Llynedd dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, oedd yn arfer bod yn gyfrifol am awdurdodau lleol, y gallai'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cadw cyn belled 芒'u bod nhw'n cydweithio'n agosach.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ollwng eu cynlluniau i orfodi'r 22 cyngor i uno er mwyn ffurfio wyth neu naw.

Fis diwethaf dywedodd Alun Davies nad oedd unrhyw un o fewn llywodraeth leol yn dadlau mai 22 oedd y nifer gorau, a bod y drafodaeth wedi mynd ymlaen yn rhy hir.

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i gynghorau am y ffordd roedden nhw wedi rhefru arnyn nhw yn y gorffennol.

Dywedodd Mr Davies wrth ACau y byddai'n gwneud datganiad yngl欧n 芒'i gynlluniau yn dilyn trafodaeth ehangach am r么l llywodraeth leol.