麻豆官网首页入口

Ffigyrau ymateb ambiwlans yn 'frawychus' dros y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod 1,860 o alwadau am ambiwlans wedi cymryd mwy na chwech awr dros dri mis y gaeaf.

Mae'r ffigyrau sydd wedi'u rhyddhau gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos yr amseroedd cleifion yn achosion galwadau melyn - achosion sy'n golygu nad oes bygythiad i fywyd yn syth.

Mae'r blaid wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "brawychus".

Ond mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud fod angen ystyried y ffigyrau yng nghyd-destun galw cyson tymor y gaeaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod targedau'r galwadau mwyaf brys yn rhagori.

'Gaeaf prysur'

Daw'r ffigyrau ar gyfer Rhagfyr 2017-Chwefror 2018 ar 么l i'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ddisgrifio'r cyfnod fel "y gaeaf prysuraf erioed" yn hanes y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Yn 么l ystadegau a gafodd eu casglu gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fe wnaeth 51% o alwadau melyn - 34,768 allan o 68,186 - gymryd mwy na hanner awr.

Roedd yr ymateb yn hirach na thair awr yn achos 5,706 o alwadau, a mwy na chwech awr yn achos 1,860 yn rhagor.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y ffigyrau yn "frawychus."

Mae galwadau am ambiwlans yng Nghymru yn cael eu rhoi yn un o dri dosbarth - coch, melyn a gwyrdd - dan drefn a gafodd ei chyflwyno yn 2015.

Mae'r galwadau mwyaf brys ble mae perygl i fywyd yn cael eu cofnodi fel galwadau coch, gyda disgwyl i barafeddygon gyrraedd 65% o'r cleifion hynny o fewn wyth munud.

Mae galwadau melyn yn cynnwys achosion sy'n cael eu hystyried yn rhai difrifol ond dyw bywyd y person ddim mewn perygl yn syth. Gall rhain gynnwys achosion fel str么c a phoenau yn y frest.

Yn achos galwadau melyn, dywed Llywodraeth Cymru fod cleifion yn cael ymateb cyflym "golau glas", ond does dim targedau amser penodol.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y ffigyrau yn "frawychus".

"Mae pwysau uchel ar y GIG, rydym yn deall hynny, ond mae rheolaeth o'r GIG gan yr Ysgrifennydd Iechyd presennol yn hynod annigonol," meddai.

'Disgwyl yn hirach'

Dros yr un cyfnod, roedd 70% o 6,375 o alwadau coch wedi cyrraedd y targed ymateb o wyth munud.

Roedd y data'n dangos fod 1,938 o'r 6,375 o alwadau a gafwyd wedi cymryd mwy nag wyth munud cyn i ambiwlans gyrraedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi gwneud yn well na'r targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch am 29 mis yn olynol, gyda chyfartaledd ymateb ambiwlans i alwad o'r fath yn bum munud.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Mae achosion o chwech awr neu fwy ddim ond yn 2.1% o nifer yr achosion ble wnaeth ambiwlans ymateb.

"Wrth edrych ar y cynnydd mewn galw ar draws y system, gyda sawl claf angen ein help, mae'n anochel fod rhai pobl, yn anffodus, yn gorfod disgwyl yn hirach.

"Does neb yn y Gwasanaeth Ambiwlans na GIG Cymru yn hunanfodlon yngl欧n 芒 darparu'r gofal gorau i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu, a byddwn yn parhau i weithio i wella'r hyn rydym yn ei wneud."