Diarddel yr AC annibynnol Mandy Jones o blaid UKIP

Ffynhonnell y llun, Twitter/Nathan Gill

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mandy Jones nad yw'n edifar am wrthwynebu penodi Neil Hamilton yn un o gomisiynwyr y Cynulliad

Mae AC annibynnol rhanbarth Gogledd Cymru, Mandy Jones wedi cael ei diarddel o UKIP ar 么l iddi feirniadu cyn-arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton.

Fe gafodd Ms Jones ei hatal rhag ymuno 芒 gr诺p y blaid ddechrau'r flwyddyn ar 么l ymuno 芒'r Cynulliad wedi ymddiswyddiad Nathan Gill.

Ond mae nawr wedi cael ei chyhuddo o wneud niwed i'r blaid ar 么l dweud fod Mr Hamilton yn anaddas ar gyfer cael ei benodi'n un o gomisiynwyr y Cynulliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Ms Jones nad yw'n edifar yngl欧n 芒'r hyn a ddywedodd.

Roedd UKIP wedi enwebu Mr Hamilton i gynrychioli'r blaid fel aelod o'r corff sy'n goruchwylio gweinyddiaeth y sefydliad.

Ond mewn cam anarferol, fe gafodd yr enwebiad ei wrthod gan ACau - 31 i 17 - mewn pleidlais a gafodd ei gynnal yn sgil gwrthwynebiad Ms Jones i'r penodiad.

'Mae daer angen undod'

Dywedodd fod yr enwebiad yn amhriodol ar 么l i Mr Hamilton ymatal ei bleidlais yn hytrach na chefnogi polisi i fynd i'r afael ag aflonyddu o fewn y Cynulliad.

Mae ysgrifennydd UKIP, Adam Richardson yn dweud fod araith Ms Jones yn "niweidiol i Mr Hamilton ac i'r blaid ehangach yng Nghymru, sydd daer angen undod".

Roedd y cyhoeddusrwydd o ganlyniad, meddai yn "ddi-angen ac yn niweidiol eithriadol mewn cyfnod tymhestlog".

Mae Ms Jones nawr yn wynebu gwrandawiad disgyblu brys.

Dywedodd llefarydd ar ran Ms Jones ei bod "yn glynu wrth yr hyn a ddywedodd" ac "yn edifar am ddim".

Ychwanegodd: "Fe wnaeth y mwyafrif gytuno 芒 hi. Dyw UKIP heb golli dim - maen nhw ond angen cynnig ymgeisydd priodol ar gyfer y gwaith."

Dewis arweinydd Cynulliad

Yn y cyfamser daeth cadarnhad y bydd pleidlais o aelodau UKIP i ddewis arweinydd y gr诺p yn y Cynulliad.

Dywedodd yr arweinydd presennol, Caroline Jones, ei bod yn gobeithio ennill y bleidlais, fydd yn digwydd ddiwedd Gorffennaf.

Ychwanegodd ei bod yn "wyneb da i UKIP yng Nghymru a dwi'n gobeithio bod yr aelodau'n cytuno".