Cwmn茂au mawr yn dweud eu bod yn elwa o'r Gymraeg

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Lidl wedi wynebu beirniadaeth yn y gorffennol am eu polisi iaith yng Nghymru

Mae nifer o gwmn茂au mawr wedi dweud fod yr iaith Gymraeg yn help i ddenu cwsmeriaid newydd.

Mewn adroddiad busnes newydd, mae cwmn茂au fel Boots, Santander, BT, Lidl a Marks & Spencer yn dweud fod y Gymraeg o fantais i ehangu eu busnes yng Nghymru.

Dros y misoedd diwethaf mae T卯m Hybu Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnal arolwg gyda busnesau mawr, bach a chanolig yma am eu hagweddau tuag at ddefnyddio'r Gymraeg.

Roedd mwyafrif clir yn dweud bod y Gymraeg yn fanteisiol iddyn nhw, meddai'r adroddiad.

Mae ambell un o'r cwmn茂au sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol am eu perthynas gyda'r Gymraeg.

'O fudd i'n henw da'

Cafodd yr ymchwil ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, gan gynnwys barn 82 o arweinwyr busnes ledled Cymru.

Yn 么l yr adroddiad, , mae:

  • 76% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn denu cwsmeriaid;
  • 82% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth;
  • 84% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn gwella brand y busnes;
  • 16% oedd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod yr iaith Gymraeg wedi llesteirio'r busnes.

Dywedodd Gareth Davies, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Lidl, eu bod yn "hynod falch o fod yn rhan o'r cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt".

"Dyma pam rydym wedi cyflwyno arwyddion dwyieithog ym mhob un o siopau Lidl yng Nghymru," meddai.

Mae'r t卯m hybu yn rhoi cefnogaeth a hyfforddiant i fusnesau ac elusennau i ddatblygu'r Gymraeg ym myd busnes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn 2016 roedd dadl am y defnydd o'r gair 'Foodhall' yn siop Marks & Spencer yn Aberystwyth

Dywedodd John Turner, Pennaeth Rhanbarthol Marks and Spencer: "Heb os mae ein cwsmeriaid eisiau gwasanaeth Cymraeg, ac mae angen i ni felly gwrdd 芒'u disgwyliadau.

"Efallai na fydd hi bob amser yn hawdd egluro hyn i'm cydweithwyr y tu allan i Gymru. Ond mae tystiolaeth yn dangos sut mae'r Gymraeg o fudd i'n henw da a'i bod yn gallu ennill mwy o gwsmeriaid i'n siopau."

Y Gymraeg yn 'arf masnachol'

Dywedodd Gethin Edwards, sy'n arwain gwaith y T卯m Hybu, fod yna "wastad risg" wrth fynd ati i gomisiynu arolwg.

Ond dywedodd mai dim ond 24% o'r holl fusnesau yr oedd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi dod i gyswllt a nhw yn y gorffennol.

"Beth sy'n galonogol yw bod yr ymchwil yma'n dangos bod awydd i ddefnyddio'r Gymraeg fel arf masnachol ac i sefyll mas mewn byd cystadleuol," meddai.

Yr wythnos yma bydd y t卯m hybu yn cynnal brecwastau busnes ledled Cymru i drafod canfyddiadau'r ymchwil - yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bae Colwyn.