Galw am godi treth ar gwpanau coffi tafladwy

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar gwpanau coffi tafladwy.

Penderfynodd Llywodraeth y DU beidio 芒 rhoi 25c ychwanegol ar bris coffi ar gyfer cwpanau sy'n cael eu defnyddio unwaith yn unig yng Nghyllideb yr Hydref, a oedd yn hytrach yn cynnwys treth ar becynnau plastig.

Mae'r elusen City to Sea yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd, fel a ddigwyddodd wrth ychwanegu cost o 5c i fagiau plastig yn 2011.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisiau gweld beth fydd ymgynghoriadau a mentrau busnes yn dangos cyn gweld os fyddai treth ar blastig tafladwy yn gweithio.

Yn 么l sylfaenydd City to Sea, Natalie Fee, mae plastig sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith yn broblem fawr ac mae'r cyhoedd yn cefnogi treth ar gyfer cwpanau coffi o'r fath.

"Be welon ni [gyda Chyllideb yr Hydref] oedd codi treth isel ar wneuthurwyr. Ac nid yw'r fath yna o beth yn newid ymddygiad," meddai.

"Ond gyda chodi 5c am fagiau plastig wrth eu prynu roedd gostyngiad aruthrol yn y nifer sy'n eu defnyddio."

Mwy o ailgylchu

Mae 2.5 biliwn o gwpanau coffi tafladwy yn cael eu defnyddio yn y DU bob blwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu gwneud gan gyfuniad o bapur a phlastig.

Mae nifer o gwmn茂au coffi yn defnyddio mentrau amrywiol i leihau'r defnydd o ddeunydd untro, gan gynnwys ailgylchu a chodi prisiau cwpanau tafladwy.

Llynedd, daeth argymhelliad gan Bwyllgor Archwilio Amgylcheddol T欧'r Cyffredin y dylid codi 25c ar gwpanau tafladwy.

Dywedodd Neil Whittle, llefarydd y Paper Cup Alliance, sy'n cynrychioli gwneuthurwyr cwpanau papur y DU, nad oes angen treth o'r fath, gan fod eu cwpanau yn gallu cael eu hailgylchu.

"Mae'r diwydiant wedi dod at ei gilydd i wella'r ffordd rydym yn adfer ac ailgylchu cwpanau papur," meddai.

Rhybuddiodd Mr Whittle y gallai ychwanegu treth arwain at golli swyddi yn y farchnad goffi, a dywedodd bod cymharu coffi-i-fynd gyda sefyllfa bagiau plastig yn anodd.

'Parhau i ystyried'

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud iddynt ystyried chwilio am bwerau i godi treth llynedd, ond bod diwygio trethi eraill wedi bod yn flaenoriaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth ei bod yn "parhau i ystyried y mater a monitro sut mae gweithredu gwirfoddol gan fusnesau yn cael effaith ar lefelau ailgylchu ac ailddefnyddio".

"Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar yr ymgynghoriad ar dreth ar becynnu arfaethedig er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn rhan o'r ymgynghori, datblygu polisi a phrosesau i gyflawni unrhyw fesur treth yn y maes hwn."