Protest yn erbyn toriadau posib Prifysgol Bangor

Mae dros 100 o staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cynnal protest yn erbyn toriadau ariannol dadleuol.

Cyhoeddodd y brifysgol y llynedd bod angen ceisio arbed hyd at 拢5m ac ymgynghori ar y posibilrwydd o ddiddymu gradd anrhydedd sengl mewn Cemeg - camau a fyddai'n peryglu 60 o swyddi.

Dywedodd Gethin Morgan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor bod "yna lot o bryderon - yn amrywio o gau'r Ysgol Cemeg, y darpariaeth Gymraeg ac yna colli staff".

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi cael ei ymestyn, medd llefarydd ar ran y brifysgol, gan ychwanegu na fydd yna unrhyw benderfyniadau cyn i'r broses yno fynd rhagddi.

Dywedodd Mr Morgan bod y brotest wedi ei threfnu "i sicrhau fod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed".

"Dwi ar ddeall fod lot o bobl sy'n agos i'r mannau uchaf ar gyflogau uchel iawn," meddai. "Mae rhaid edrych ar hynna ac ar eu costau nhw... ein lle ni ydi parhau i gefnogi a chwestiynu'r pethau hyn."

Disgrifiad o'r llun, Mae Aled Rosser yn poeni am effaith newidiadau posib ar yr adran gerdd

Dywedodd Aled Rosser: "Fel myfyriwr yn yr Ysgol Gerdd, mae'r cynlluniau yn golygu gallwn ni golli pedwar aelod o staff. Mae hynna yn torri'r nifer staff o oddeutu 40%".

Mae yna bryder hefyd ymhlith myfyrwyr yr Adran Gymraeg. Dywedodd Bethan Boland: "'Dan ni wedi'n barod colli un aelod o staff gwych ac ni bach ar goll hebddo fo.

"'Dan ni wedi colli'r agosatrwydd hwnnw oedd yn yr ysgol cyn hynny. Tydi'r glas myfyrwyr ddim yn cael yr un profiad 芒 ni".

Disgrifiad o'r llun, Roedd dros 100 o staff a myfyrwyr yn y brotest

Dywedodd AS Arfon, Hywel Williams - cyn ddarlithydd yn y brifysgol - bod angen ymateb creadigol i'r heriau sy'n wynebu'r brifysgol.

"Mae yna gwymp wedi bod yn [nifer] y myfywrwyr a cwymp yn yr incwm," meddai. "Mae yna Is-Ganghellor newydd a chadeirydd newydd i'r cyngor a 'dwi'n gwybod eu bod nhw'n cymryd hwn o ddifri.

"Mae rhaid ymateb yn greadigol er mwyn sicrhau nad yw'r darpariaeth yn cael ei golli a nad yw'r safonau yn disgyn."

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod yn "ymgynghori gyda staff a myfyrwyr i gyrraedd eu targedau ariannol".

Mae'r cyfnod ymgynghori, meddai, wedi cael ei ymestyn ar gais staff a myfyrwyr.

Ychwanegodd: "Ni fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud nes i'r cyfnod ymgynghorol ddod i ben."