麻豆官网首页入口

'Angen mwy o gymorth i fusnesau bach yn sgil cwymp Dawnus'

  • Cyhoeddwyd
Protectorcomms
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd cwmni Protectorcomms eu bod yn "ffodus" i beidio colli swyddi yn sgil cwymp Dawnus

Dylai gweinidogion wneud mwy i amddiffyn busnesau bach rhag colli arian pan fydd cwmn茂au adeiladu yn mynd i drafferthion ariannol, yn 么l Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB).

Nodir hefyd bod taliadau hwyr yn "rhemp" ac mae'r FMB eisiau i'r cynllun sy'n diogelu cyflenwyr bach gael ei ymestyn.

Mae un cwmni o Gaerffili yn dweud eu bod wedi colli 拢30,000 ar 么l i gwmni Dawnus o Abertawe fynd i'r wal ym mis Mawrth.

Nid yw rhestr y credydwyr wedi'i datgelu eto gan y gweinyddwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn monitro effeithlondeb eu polisi presennol.

Mae pryderon wedi cynyddu ers cwymp y cwmn茂au adeiladu Carillion a Dawnus.

Mae Protectorcomms, sydd wedi'i leoli yng Nghaerffili, wedi bod yn masnachu am 13 mlynedd ac yn cyflogi 17 o bobl - mae'r cwmni yn darparu larymau t芒n a gosodiadau diogelwch ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai.

Dywedodd Lloyd Harding, cyfarwyddwr technegol, fod un o is-gwmn茂au Dawnus, Legsun - un o'r cwmn茂au sy'n nwylo'r gweinyddwyr - yn "dalwyr gwael iawn, rhywbeth sydd ddim yn anghyffredin yn y diwydiant".

Fe aeth pethau mor ddrwg nes i Protectorcomms roi'r gorau i weithio iddyn nhw ar ddechrau'r flwyddyn ond yna ailddechreuodd ar 么l addewid y byddai'n cael ei dalu.

Mae 拢30,000 yn ddyledus i'r cwmni ac mae'n annhebygol y caiff ei dalu.

'Brwydr' i gael arian

Roedd gwaith Protectorcomms hefyd yn cynnwys adeiladu ysgol newydd yn Y Trallwng, Powys.

"Mae yna ddiffyg tryloywder llwyr," meddai Mr Harding, a ddywedodd ei bod hi'n "frwydr" cyson i gael arian allan o gwmn茂au mwy.

"Dydych chi byth yn gwybod pryd fydd yr arian yn dod trwodd. Mae'n 60 diwrnod, diwedd y mis ar ei orau. Mae'n bosibl y gall fod yn 90 diwrnod a 120 diwrnod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth cadarnhad swyddogol fod Dawnus wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf

Dywedodd Ifan Glyn, cyfarwyddwr yr FMB yng Nghymru: "Mae arferion talu gwael ymhlith llawer o gwmn茂au adeiladu mawr yn rhemp.

"Mae gan brosiectau gyfrifon banc y potensial i atal rhywfaint o'r ymddygiad hwnnw ond ar hyn o bryd maen nhw ond ar gael i brosiectau Llywodraeth Cymru sydd werth dros 拢2m.

"Hoffem weld y trothwy hwnnw'n cael ei ostwng o bosibl ac yna edrych ar ehangu hynny i gontractau sector cyhoeddus eraill a'i gyflwyno yn y tymor hir ar draws y sector preifat hefyd."

'Monitro effeithlondeb y polisi'

Ers Ionawr 2018 mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn orfodol i bob cynllun adeiladu sydd gwerth dros 拢2m y maen nhw'n ariannu i ddefnyddio Cyfrifon Banc Prosiectau (CBP).

Maen nhw'n sicrhau, os yw cwmn茂au maer fel Dawnus yn mynd i'r wal, nad ydyn nhw'n diddymu'r gadwyn gyflenwi hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra nad ydym yn gallu gwneud Cyfrifon Banc Prosiectau yn orfodol ar bob cytundeb adeiladu sector cyhoeddus, ry'n ni'n parhau i hyrwyddo'r defnydd ohonynt ar draws y sector cyhoeddus fel arfer da i sicrhau t芒n teg a heb oedi.

"Ry'n ni'n monitro effeithlondeb y polisi a byddwn yn ystyried unrhyw awgrymiadau i'w wella, gan gynnwys y trothwy presennol o 拢2m."