Ap锚l am gontractwyr lleol i adeiladu ysgol wedi cwymp Dawnus

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Safle adeiladu ysgol newydd ar Ffordd Salop, Y Trallwng ym Medi 2018

Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am gontractwyr lleol i adeiladu ysgol gynradd newydd yn dilyn trafferthion cwmni adeiladu Dawnus.

Dechreuodd y gwaith ar Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng ym mis Gorffennaf y llynedd.

Ond daeth y gwaith i stop sydyn pan aeth y prif gontractwr - Dawnus - i ddwylo gweinyddwyr ym mis Mawrth.

Dywedodd y cyngor sir bod y prosiect "wedi cyrraedd tua hanner ffordd".

Mae'r cyngor sir bellach yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb ffurfiol yn y prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, aelod cabinet 芒 chyfrifoldeb am addysg a'r iaith Gymraeg, bod "cwymp anffodus" Dawnus wedi "arwain at y cyfle i geisio cynnwys cwmn茂au lleol yn y prosiect ar bob lefel".

"O dan y trefniant blaenorol, roedd nifer o gwmn茂au lleol yn gweithio fel is-gontractwyr ond rydym yn hyderus y bydd y sector adeiladu ffyniannus ym Mhowys yn darparu pecyn cystadleuol a fydd nid yn unig yn cwblhau'r gwaith o adeiladu'r ysgol cyn gynted 芒 phosibl ond yn creu ffordd newydd o feddwl am brosiectau mawr ym Mhowys," meddai.