麻豆官网首页入口

Prifysgol Bangor yn penodi is-ganghellor newydd

  • Cyhoeddwyd
Iwan DaviesFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr Athro Iwan Davies yn dechrau ar ei rol newydd ar 1 Medi

Mae'r Athro Iwan Davies wedi ei benodi yn Is-ganghellor nesaf Prifysgol Bangor.

Yr Athro Davies fydd yr wythfed is-ganghellor neu bennaeth yn hanes 135 mlynedd y brifysgol.

Fis Rhagfyr y llynedd fe wnaeth y cyn Is-ganghellor, yr Athro John Hughes, gyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd yn gynt na'r disgwyl.

Daeth ei benderfyniad ar 么l iddo ymddiheuro i staff ar 么l i rai ohonyn nhw dderbyn e-bost gyda manylion am ei fywyd personol.

Roedd wedi bod yn Is-ganghellor ers 2010.

Bydd yr Athro Davies yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Medi a bydd yr Is-ganghellor dros dro, yr Athro Graham Upton, yn parhau yn y swydd tan hynny.

Daw'r penodiad ar 么l cyfnod o arbedion i'r brifysgol.

'Creu momentwm'

Ar hyn o bryd yr Athro Davies yw'r Uwch Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n awdurdod blaenllaw ar gyfraith fasnachol ryngwladol.

Dywedodd yr Athro Davies, sy'n siaradwr Cymraeg rhugl: "Un o fy mlaenoriaethau cyntaf fydd cyfarfod 芒'r staff a'r myfyrwyr, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yn uniongyrchol ganddynt am eu gobeithion ar gyfer y brifysgol dros y blynyddoedd nesaf.

"Rwy'n credu'n gryf mewn dull o reoli sy'n gynhwysol ac yn seiliedig ar bartneriaeth, a gwn drwy gydweithio fel cymuned y gallwn greu momentwm go iawn, a hefyd wneud Bangor yn gryfach yn ariannol."