Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

'Dawnus â dyledion o dros £50m' pan aeth i ddwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
Dawnus
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cadarnhad swyddogol fod Dawnus wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth

Roedd gan gwmni adeiladu o Abertawe ddyledion o bron i £50m pan aeth i drafferthion ariannol yn gynharach eleni.

Roedd Dawnus yn cyflogi tua 700 o bobl ac yn gyfrifol am 44 o safleoedd adeiladu pan gafodd ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod £1.5m yn ddyledus iddynt ar ôl i'r cwmni dderbyn benthyciad yn ystod cyfnod o ansicrwydd ariannol.

Dywedodd y gweinyddwyr, Grant Thornton, ei bod hi'n "annhebygol iawn" y bydd modd adennill yr holl arian.

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn hyderus y byddai'r arian yn cael ei dalu 'nol yn llawn.

Yn ôl Grant Thornton, mae'n bosib y bydd y llywodraeth yn derbyn peth o'r arian ond mae'n debygol na fydd y ddyled yn cael ei dalu 'nol yn llawn.

Roedd gan Dawnus ddyledion o £40.4m i gyflenwyr a chontractwyr pan aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae gwerth £5m o gyflogau yn ddyledus i'w gweithwyr, tra bod gwerth £3m o drethi hefyd heb eu talu.