麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Y newyddiadurwr Seren Jones

  • Cyhoeddwyd
Seren JonesFfynhonnell y llun, Aled Jenkins

Y newyddiadurwr Seren Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma. Mae Seren yn gweithio gyda'r 麻豆官网首页入口 ers 2016 ac ar hyn o bryd yn gweithio yn Llundain ar y podlediad Beyond Today ar gyfer 麻豆官网首页入口 Radio 4.

Mae hi wedi cael ei henwebu am wobr BAFTA Cymru 2019 yn y categori Torri Trwodd am ei rhaglen ddogfen Zimbabwe, Taid a Fi, lle cafodd ddysgu mwy am wlad enedigol ei thaid, a chael cyfweliad gyda'r arlywydd newydd, Emmerson Mnangagwa.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fi'n cofio pan o'n i'n byw yn Llundain - ges i fy ngeni yma - chwarae tu fas ar y stryd gyda phlant oedd yn byw yn agos. Oedden ni'n chwarae rhyw fath o knock and run, a 'nath un o'r plant gwympo pan oedden ni'n rhedeg i ffwrdd, felly 'naethon ni orfod mynd n么l ato fe a'i helpu fe adre'! Fydden i wedi bod yn dair neu bedair oed. Pam mod i'n chwarae hwnna yr oedran 'na, dwi ddim yn gwybod, ond dyna ni!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Thierry Henry.

Ffynhonnell y llun, Pool MERILLON/STEVENS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Thierry Henry yn chwarae yn ffeinal Euro 2000, lle enillodd Ffrainc 2-1 yn erbyn Yr Eidal

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan o'n i'n gwneud gymnasteg pan o'n i tua naw oed, o'n i'n gorfod gwneud handstand a 'nes i rechu o flaen pawb! O'dd e mor embarrassing. Mae e dal yn byw 'da fi...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Fi'n eitha' agored gyda'n emosiynau - fi ddim yn meindio cr茂o o flaen pobl a siarad am fy nheimladau. Fi'n cr茂o bob dydd. Yn anffodus, nes i gr茂o heddi oherwydd newyddion drwg.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi ishe pethau fel dwi ishe nhw, a dwi'n mynd yn irritated os 'dyn nhw ddim. Pethau bach fel os ydi'r mat ar y bwrdd ddim yn hollol syth, ma'n gyrru fi'n nyts.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bae Caerdydd. Gyment o atgofion gr锚t o dyfu lan. Mae e mor hardd yn yr haf, pan ma'r haul yn mynd lawr. Fi'n caru cerdded ar y morglawdd - mae pawb wastad mewn hwylie da yno.

Nes i symud i Gaerdydd pan o'n i'n wyth oed nes bo' fi'n 18, a ddes i n么l i weithio yno i 麻豆官网首页入口 Cymru am flwyddyn. Ond fi'n dod adre'n aml.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ym mis Mawrth 2016, pan 'nes i nofio yng nghystadleuaeth ola' fy ngyrfa yn y USA Nationals. O'n i draw mewn prifysgol yn Efrog Newydd yn nofio - fe fues i'n nofio am 13 o flynyddoedd.

Yn y gystadleuaeth ola' 'na yn Indianapolis, o'n i'n nofio fy hoff ras am y tro olaf - sef 100m, backstroke - a ddes i'n 3ydd. Es i mewn i'r ras yn 5ed, felly do'n i ddim yn disgwyl gwneud mor dda - a nes i dorri record y brifysgol hefyd.

A 'nes i jest dechrau cr茂o. A'r peth cynta' 'nes i oedd edrych lan at y stands, ac o'dd Dad wedi dod draw o Gaerdydd i wylio fi am y tro ola', ac o'dd e'n cr茂o hefyd! O'dd e'n amazing. Fi byth wedi teimlo mor hapus - dwi dal yn aros am foment i topio hwnna ond dwi heb gael e eto.

Ffynhonnell y llun, Seren Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Seren a'i chyd-nofwyr yn dathlu eu llwyddiant yn y pwll

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Angerddol, gweithio'n galed, emosiynol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Llyfr - Malorie Blackman, Noughts and Crosses. Mae'n stori am ferch ddu a bachgen gwyn, ond mae pethau go chwith, felly mae'r bobl ddu yn fwy breintiedig a'r bobl wyn ddim. 'Naeth e wneud i mi edrych ar y byd mewn ffordd wahanol am y tro cynta' erioed. Mae'r 麻豆官网首页入口 ar fin gwneud fersiwn deledu ohono.

Ffilm - Coach Carter. Mae i wneud gyda chwaraeon so o'dd e wastad yn ysbrydoliaeth i fi.

O archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Y rheswm o'n i'n cr茂o heddiw a ddoe, oedd achos fod ffrind i mi yn y gwaith, Hanna, newydd farw - felly hi yw pwy fydden i'n cael diod gyda hi.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hyblyg iawn, yn enwedig hips a phengliniau fi - dwi bach yn double-jointed.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Treulio amser gyda'r teulu - y bobl mwya' pwysig. Adre' si诺r o fod.

Ffynhonnell y llun, Aled Jenkins
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Seren dreulio amser gyda'i theulu pan aeth allan i ffilmio yn Zimbabwe

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Focus gan H.E.R.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cynta' fyse bara garlleg neu rywbeth fel ciabatta - fi'n caru bara! Bendant lobster i'r prif gwrs. Pwdin fyse cacen gaws fanila Mam.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Barack Obama. Byddwn i wir wedi hoffi bod yn bry' ar y wal pan oedd e'n arlywydd. Byddwn i wedi caru gwybod sut o'dd e'n meddwl a'r holl rwystrau 'nath e wynebu.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Catrin Nye

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw