Gorymdaith i groesawu Eisteddfod Urdd Dinbych 2020

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd yr orymdaith o Ysgol Uwchradd Prestatyn

Mae tua 1,600 o bobl wedi bod yn gorymdeithio yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn er mwyn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2020.

Bydd yr 诺yl un cael ei chynnal yn Ninbych ym mis Mai flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth plant, rhieni a chefnogwyr orymdeithio o Ysgol Uwchradd Prestatyn cyn cynnal prynhawn o ddigwyddiadau.

"Dy'n ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddychweliad yr eisteddfod," meddai Hugh Evans, arweinydd y cyngor sir, cyn y digwyddiad.

Mae gorymdaith ddydd Sadwrn yn benllanw ar wythnos o ddigwyddiadau cyhoeddi.

"Mae yna draddodiad eisteddfodol cryf yma yn Sir Ddinbych ac mae unigolion brwdfrydig wedi bod yn cydweithio 芒'r Urdd i drefnu g诺yl i'w chofio," ychwanegodd Mr Evans.

Disgrifiad o'r llun, Plant Ysgol Pentrecelyn yn yr orymdaith groesawu

Llynedd cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei chynnal yng Nghaerdydd gan ddenu miloedd o ymwelwyr i'r brifddinas.

Yn 么l y trefnwyr, mae'r eisteddfod yn cyfrannu mwy na 拢11m i economi Cymru ac fe wnaeth adroddiad ddangos bod mudiad Urdd Gobaith Cymru yn werth 拢25.5m i'r economi yn y flwyddyn 2017-18.

Bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal ar Fferm Kilford ger Dinbych rhwng 25-20 Mai.