Ailddechrau adeiladu ysgol wedi misoedd heb weithwyr

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Safle adeiladu ysgol newydd ar Ffordd Salop, Y Trallwng ym Medi 2018

Bydd y gwaith o adeiladu ysgol a gafodd ei adael ar ei hanner yn ailddechrau ar 么l i gyngor benodi contractwyr newydd i orffen y gwaith.

Daeth y gwaith ar ysgol newydd yn Y Trallwng, Powys, i stop yn sgil cwymp y cwmni adeiladu gwreiddiol, Dawnus.

Dywedodd Cyngor Powys bod y gwaith wedi cyrraedd ei hanner cyn yr oedi ym mis Mai y llynedd.

Ond bydd y gwaith bellach yn ailddechrau yn ddiweddarach ym mis Ionawr.

'Cyfnod anodd'

Dechreuodd y gwaith ar yr ysgol - fydd 芒 lle i 360 o ddisgyblion - ym mis Gorffennaf 2018.

Ond daeth yr adeiladu i ben pan aeth Dawnus i'r wal ym Mawrth 2019.

Disgrifiad o'r llun, Ni chafodd sawl cynllun arall eu gorffen gan Dawnus, gan gynnwys ailddatblygu Abertawe

Roedd Dawnus yn cyflogi tua 700 o bobl ac yn gyfrifol am 44 o safleoedd adeiladu pan gafodd ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr gyda 拢50m o ddyled.

Nawr mae'r cyngor wedi penodi Pave Aways Ltd i orffen y gwaith, a hynny yn sgil eu gwaith ar ysgolion eraill yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, aelod cabinet dros addysg: "Mae wedi bod yn gyfnod anodd i gymuned yr ysgol ac rwy' am ddiolch iddynt am eu hamynedd wrth i ni chwilio am gontractwr newydd."

Ychwanegodd y byddai'r ysgol yn cynnig "amgylchedd dysgu lle bydd dysgwyr a'r staff addysgu'n gallu ffynnu a chyrraedd eu potensial" pan fydd wedi gorffen.