Galwadau i ddileu cynlluniau ffordd A55 y gogledd

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r "llwybr coch" yn rhedeg o Laneurgain i'r ffin gyda Lloegr

Dylai cynlluniau ar gyfer ffordd newydd yn y gogledd gael eu dileu dros bryderon amgylcheddol, yn 么l ymgyrchwyr.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer yr A55 yn Sir y Fflint yn cynnwys darn wyth milltir (13km) newydd o ffordd ddeuol a gwelliannau ac addasiadau eraill.

Mae ymgyrchwyr yn honni y byddai'r ffordd yn cael ei hadeiladu trwy goetir hynafol ac yn cyfrannu at newid hinsawdd.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn cynnwys gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae disgwyl i'r gwaith cynllunio ac adeiladu manwl o'r "llwybr coch" ddechrau yn 2023.

Mae hefyd yn cynnwys uwchraddiadau i'r A548 dros Bont Sir y Fflint rhwng Cei Connah a Chilgwri a dolen newydd i'r A55 yn Llaneurgain.

Yr haf diwethaf fe wnaeth 1,500 o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun, sydd, medden nhw, yn mynd yn groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni allyriadau carbon "sero net" erbyn 2050.

Dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, mae 15 gr诺p bellach wedi ymuno 芒 thrigolion lleol a gwleidyddion i wrthwynebu'r cynlluniau.

Maen nhw wedi beirniadu'r ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd, medden nhw, yn "anwybyddu barn llawer yn y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, sef Y Fflint a Llaneurgain".

Dywed y corff hefyd bod y costau wedi cynyddu o 拢210m yn 2016 i fwy na 拢300m.

"Mae'r llwybr coch yn cael ei wrthwynebu gan Gyngor Tref y Fflint a Chyngor Cymuned Llaneurgain. Nid yw Cyngor Sir y Fflint yn ei gefnogi ond ar yr amod bod gwelliannau sylweddol ychwanegol i'r ffyrdd yn cael eu gwneud cyn cychwyn ar y Llwybr Coch," meddai'r Ymddiriedolaeth.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Y ffordd arfaethedig a fyddai'n mynd drwy rannau o Sir y Fflint

Dywedodd Adrian Lloyd Jones, Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, y byddai'r ffordd yn "niweidio cynefinoedd gwerthfawr am byth, gan gynnwys coetir hynafol a safle byd natur lleol sy'n gartref i ystlumod, moch daear ac anifeiliaid eraill".

"Mae'n drawiadol fod Llywodraeth Cymru'n dal i argymell cynlluniau fel hwn, a ninnau'n wynebu argyfwng hinsawdd a bywyd gwyllt, ac yn enwedig pan fydd yna opsiynau eraill llai niweidiol ar gael sydd heb gael eu hystyried hyd yn oed," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau 芒 datblygu gwelliant coridor Sir y Fflint ac yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer l么n ymlusgo ar yr A55 ger Helygain ac yn ystyried addasiadau i gyffyrdd yn ardal Ewlo.

"Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gwella cysylltiadau teithio actif, cysylltiadau teithio ar fysiau a gwella gwytnwch y seilwaith presennol ynghyd 芒 lleihau tagfeydd.

"Rhaid i'r prosiect hwn gael ei ystyried yn rhan o'r gwaith ehangach i wella'r seilwaith trafnidiaeth ledled gogledd Cymru, sy'n cynnwys buddsoddiad mewn cynllun Metro Gogledd Cymru."