麻豆官网首页入口

'Fydden i ddim 'ma heddi oni bai am yr ambiwlans awyr'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Allai'm diolch digon i'r ambiwlans awyr,' medd Nerys Jones

"Fyddwn i ddim yma heddiw oni bai am wasanaeth elusen Ambiwlans Awyr Cymru."

Ar ddiwrnod dathlu pen-blwydd yr elusen yn 20 oed, dywed Nerys Jones na all hi a'i theulu ddiolch digon i'r gwasanaeth am achub ei bywyd yn 2009.

"Fi'n cofio'n iawn," meddai wrth siarad 芒 Cymru Fyw, "ro'dd hi'n ddiwrnod cneifio fferm drws nesaf ac ar ddiwedd y prynhawn es i dorri ysgall cae go serth.

"Wedi cyrraedd top y cae fe a'th ryw bang yn y tractor - ro'dd y br锚cs wedi methu a dyma fe'n llithro tuag yn 么l i lawr y llethr nes bod y peiriant torri ysgall yn mynd yn syth i goeden - a'r canlyniad oedd i fi dorri fy nghefn mewn dau le, fy ngwddf ac roedd gwaed yn pistyllio o fy mraich i."

Mae Nerys Jones yn helpu ei thad ar fferm deuluol Pantycelyn yn Llanymddyfri.

"Yn ffodus daeth yr ambiwlans awyr a mynd 芒 fi i Dreforys yn gyflym - do'dd dim posib hedfan yn uchel oherwydd y difrod i nghefn i," ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Codi arian i elusen Ambiwlans Cymru flwyddyn wedi damwain Nerys

"Fi ddim yn cofio lot ond wi'n gwybod bo fi wedi bod mor lwcus o'r gwasanaeth - a'r flwyddyn wedyn fe wnaeth Clwb Gwawr Llangadog drefnu taith gerdded noddedig i ddiolch i'r elusen am fy achub i.

"Mae pob taith yn costio cannoedd o bunnau ac ro'n yn teimlo bod yn rhaid i fi dalu n么l," ychwanegodd Nerys Jones.

'Pwysig cael triniaeth frys'

Un arall sydd wedi codi miloedd i elusen Ambiwlans Awyr Cymru yw Elfed Williams o Drefor ger Caernarfon a hynny wedi i'r elusen achub bywyd ei fab yn Awst 2013.

Ffynhonnell y llun, Elfed Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar wythnos 51 fe ddringodd Tomos Yr Wyddfa gyda'i dad Elfed Williams

Yn 2017 fe gerddodd Elfed 'Gyrn Goch' - fel y maen cael ei adnabod - Yr Wyddfa bob wythnos o'r flwyddyn i ddiolch i'r elusen am achub Tomos Huw oedd yn 20 oed ar y pryd.

"Bwrw ei ben yn galed ar goncrit wnaeth Tomos Huw wrth ddadlwytho lori ym Mlaenau Ffestiniog.

"Mi na'th rywbeth ddisgyn ar ei ben o wnaeth beri iddo ddisgyn oddi ar drelar y lori.

"A'th yr ambiwlans awyr ag o i Fangor i ddechrau ac yna i Stoke - roedd hi mor bwysig ei fod yn cael triniaeth yn fuan.

"Roedd ei ben wedi chwyddo wrth i glot ffurfio - oni bai am yr ambiwlans awyr fyddai fo ddim yma heddiw.

"Mae o bellach yn ei ugeiniau hwyr ac yn gyrru lor茂au ar y cyfandir.

"Mae gwasanaeth yr elusen mor bwysig - yn enwedig mewn ardal wledig. Pan fyddai'n gweld yr hofrennydd yn yr awyr fydd profiad Tomos yn dod n么l i fi ond fyddai'n meddwl ar yr un pryd pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth," ychwanegodd Mr Williams.

38,000 o alwadau

Y diweddar Robert Palmer a sefydlodd yr elusen yn 2001.

Ar y dechrau un hofrennydd ym maes awyr Abertawe oedd gan y gwasanaeth ond bellach dyma'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen 拢8m y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth

Mae gan y gwasanaeth erbyn hyn bedwar hofrennydd - wedi'u lleoli yng Nghaernarfon, y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd.

Yn ystod y degawd diwethaf mae wedi datblygu o fod yn wasanaeth a oedd yn cael ei arwain gan barafeddygon i wasanaeth sydd yn cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol ac ers Rhagfyr 2020 mae'n gweithredu bob awr o'r dydd.

Ers ei sefydlu, mae'r elusen wedi ymateb i oddeutu 38,000 o alwadau ac er ei bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 GIG Cymru mae'n hollol ddibynnol ar roddion elusennol.

Er mwyn i'r hofrenyddion allu gweithredu bob awr o'r dydd a'r nos, mae angen codi 拢8m bob blwyddyn.

Mae'r elusen hefyd yn rhedeg y gwasanaeth, 鈥疉mbiwlans Awyr Cymru i Blant, sy'n cludo tua 400 o blant y flwyddyn i ysbytai ledled y DU.

Diolch

Mae Mark James yn un o'r gwirfoddolwyr gwreiddiol a dywed ei fod yn hynod o falch fod y gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth.

Disgrifiad,

Mark James, un o'r gwirfoddolwyr cyntaf, yn diolch i bobl Cymru am yr holl gyfraniadau i'r elusen Ambiwlans Awyr Cymru

"Mi fydd yr elusen yn datblygu eto yn y dyfodol," meddai, "yr hyn rwy' eisiau ei wneud fwyaf heddiw yw diolch i bawb sydd wedi helpu ar hyd y blynyddoedd - yn staff, gwirfoddolwyr, peilotiaid, parafeddygon, meddygon ac wrth gwrs y bobl sydd wedi rhoi arian ar hyd y blynyddoedd i gynnal y gwasanaeth."

Yn ystod y flwyddyn bydd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal i nodi'r ugain mlynedd.

Pynciau cysylltiedig