麻豆官网首页入口

Cymru yng nghanol 'ton ddifrifol iawn' o Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
profiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ONS yn cofnodi swabiau gan filoedd o bobl o bob oedran yng Nghymru ar gyfer yr arolwg wythnosol

Mae Cymru yng nghanol "ton ddifrifol iawn" o heintiadau Covid-19, yn 么l y Prif Swyddog Meddygol.

Daw wrth i'r ystadegau diweddaraf amcangyfrif bod niferoedd achosion wedi codi am y pumed wythnos yn olynol.

Dywed Syr Frank Atherton bod math BA5 yr amrywiolyn Omicron yn achosi lefelau trosglwyddo uchel yn y gymuned.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, hefyd yn rhybuddio bod mathau "heintus eithriadol" o'r feirws "yn achosi ton o heintiadau ar draws y DU ac yn llawer o wledydd ar draws y byd".

Mae'r ddau wedi mynegi pryder am effaith bosib y sefyllfa ddiweddaraf ar y GIG.

Yn 么l arolwg swabiau wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd un o bob 20 person yng Nghymru wedi eu heintio yr wythnos diwethaf - y lefel uchaf ers canol Ebrill.

Un o bob 30 person oedd 芒'r feirws yn 么l amcangyfrif yr wythnos flaenorol.

Mae'r data hefyd yn awgrymu bod nifer y bobl oedd wedi cael prawf positif feirws wedi cynyddu 43,000, i 149,700, yn y saith diwrnod hyd at 1 Gorffennaf. Mae hynny'n gyfystyr 芒 4.93% o'r boblogaeth.

Mae'n dweud taw cynnydd mewn achosion is-amrywiolion BA.4 a BA.5 Omicron sydd i gyfri am y sefyllfa bresennol - datblygiad sydd hefyd wedi ei nodi mewn labordai yng Nghymru yn yr wythnos diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gallai'r is-amrywiolyn BA5 fod chwe gwaith yn fwy heintus na straen gwreiddiol Covid-19 ar ddechrau'r pandemig yn 2020

Dywed Syr Frank Atherton bod trosglwyddiad cyflym math BA5 amrywiolyn Omicron yn dangos sut y "mae'r feirws yn esblygu'n gyson, ac mae pob straen newydd sy'n dod 芒 mantais o ran trosglwyddo".

Cytunodd bod mwy o gymdeithasu cymunedol a digwyddiadau torfol yr haf hefyd yn helpu'r feirws i ledu.

"Rydym wedi mynd yn 么l i'r drefn arferol mewn sawl ffordd fel cymdeithas ac mae'r feirws yn hoffi mynd o berson i berson mewn amgylchiadau torfol a dyna sut mae'n goroesi."

Ffactor arall, meddai, yw'r ffordd y mae'r brechlynnau'n atal salwch difrifol ond nid lledaeniad y feirws ei hun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r feirws yn lledu pa fwyaf mae pobl yn cymysgu 芒'i gilydd, medd Syr Frank Atherton

Dywed y Prif Swyddog Meddygol bod ganddo bryder bod y sector iechyd a gofal dan fwy o bwysau yn ystod misoedd yr haf, sy'n llai prysur fel arfer.

"Rydym yn gweld niferoedd sylweddol o gleifion mewn gwelyau ysbyty, ychydig dros 1,000 ar y foment, ac mae hynny yn amlwg yn cael effaith.

"Mae hynny'n tua 10% o ein gwelyau ysbyty."

Mae hefyd yn bryderus bod ffigyrau'n awgrymu bod bron i 12% o staff y Gwasanaeth Ambiwlans o'r gwaith ar hyn o bryd yn s芒l gyda Covid neu'n hunan-ynysu wrth i'r galw am wasanaethau gyrraedd lefelau uchel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'nifer fawr' o staff y GIG o'r gwaith oherwydd Covid ar hyn o bryd, medd Eluned Morgan

Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mae dros 960 o gleifion yn ysbytai Cymru gyda Covid-19.

Mae "cynnydd wedi bod hefyd yn nifer y bobl gyda Covid-19 sy'n cael gofal critigol" ac mae "nifer fawr o staff y GIG o'r gwaith ar hyn o bryd am eu bod 芒 Covid-19".

Mae Ms Morgan hefyd yn annog pobl i wisgo mwgwd mewn lleoliadau gofal iechyd ac "i ystyried" eu gwisgo mewn mannau cyhoeddus dan do tra bod achosion coronafeirws yn uchel.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cadarnhau y bydd profion LFT ar gael am ddim i bobl gyda symptomau Covid tan ddiwedd Gorffennaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llygedyn o obaith o edrych ar ystadegau nifer o wledydd eraill, medd Dr Eleri Davies

Cytuna Dr Eleri Davies, dirprwy gyfarwyddwr meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru bod pwysau anarferol ar ysbytai ar hyn o bryd o ystyried adeg y flwyddyn.

"Mae hi yn gyfuniad anffodus bod pobl yn methu bod yn y gwaith oherwydd Covid ac y'n ni'n gweld cynnydd yn y derbyniadau hefyd," meddai, ond fe ychwanegodd fod ystadegau nifer o wledydd eraill yn cynnig llygedyn o obaith.

"Y'n ni yn gweld o'r sefyllfa yn Yr Alban a gwledydd eraill yn Ewro - er enghraifft, Portiwgal - bod y don yma yn lleihau yn y gwledydd yna.

"Y'n ni yn hefyd gweld yn ein data'n hunain yng Nghymru bod peth sefydlogi yn derbyniadau'r ysbyty ar hyn o bryd felly [mae] gobaith bod ni yn cyrraedd y pigyn ac yn dechrau dod lawr yr ochr arall.

"Wrth gwrs allwn ni ddim dweud hynny nes bod y ffigyrau yn dod lawr ond mae'n edrych yn obeithiol."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae profion LFT ar gael am ddim i bobl yng Nghymru gyda symptomau Covid tan ddiwedd Gorffennaf

Yn 么l yr ONS, mae cyfraddau achosion yn is yng Nghymru nag yn Yr Alban (1 ymhob 17) a Gogledd Iwerddon (1 ymhob 19) ond yn uwch nag yn Lloegr a'i holl ranbarthau (1 ymhob 25).

Ers i'r drefn o gynnig profion PCR ddod i ben ddiwedd Mawrth, arolwg swabiau'r ONS yw'r awgrym mwyaf defnyddiol faint o bobl sydd 芒 Covid.

Mae ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dangos bod nifer y profion LFT hefyd wedi dyblu o fewn pythefnos, gyda 6,873 o brofion positif o fewn y gr诺p oedran 40-59 yn unig.

Yn y cyfamser, mae nifer y cleifion mewn gwelyau ysbyty ac铆wt sy'n cael prawf Covid positif ar ei lefel uchaf ers yr wythnos wedi'r Pasg ym mis Ebrill.

Roedd dros hanner y cleifion hyn wedi dal Covid tra yn yr ysbyty, ond roedd 88% o'r cleifion gyda Covid yn cael triniaeth ysbyty ar gyfer cyflwr arall yn bennaf, yn 么l data dyddiol Iechyd Digidol a Gofal Cymru.

Dywed swyddogion iechyd bod adrannau damwain a brys ysbytai yn fwy prysur na'r arfer yr adeg yma o'r flwyddyn, ond mae niferoedd cleifion sy'n marw o Covid neu'n ddifrifol wael gyda'r feirws mewn unedau gofal brys yn parhau'n llawer is nag yn gynharach yn y pandemig.

Pynciau cysylltiedig