Covid: Cyngor i bobl ymddwyn 'fel ar ddechrau'r pandemig'

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd y Gweinidog Iechyd ei bod yn "glir" nad ydyn ni wedi cyrraedd brig y don eto

Fe ddylai pobl ymddwyn "fel ar ddechrau'r pandemig" trwy wisgo mwgwd, golchi dwylo ac aros adref os yn profi'n bositif am Covid.

Dyna gyngor y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wrth ymateb i don arall "ddifrifol" o Covid-19.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod y don bresennol yn "achos pryder iddi" gan fod "tua 5% o'r boblogaeth wedi eu heintio".

Fe ddywedodd "nad ydym wedi cyrraedd brig y don" ac y dylai pobl gymdeithasu tu allan gymaint ag sy'n bosib.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn bryderus am y don bresennol o Covid.

"Ma' hi yn achos pryder achos pan ma' 5% o'r boblogaeth yn dioddef, ma' hwnna'n mynd i gael effaith," dywedodd.

"Mae'n mynd i gael effaith ar y gymdeithas yn gyfan a hefyd mae'n cael effaith ar ein gallu ni i roi gwasanaethau achos ma' hwnna yn golygu bod tua 150,000 gyda Covid ar hyn o bryd.

"Mae staff off gwaith yn y gwasanaeth iechyd er enghraifft, tua 7% ohonyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gyfraith ar wisgo gorchuddion wyneb wedi dod i ben ers 30 Mai

Fe rybuddiodd y dylai pobl wisgo mygydau unwaith eto, er nad yw hynny'n ofyniad cyfreithiol yng Nghymru bellach.

"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fynd n么l i beth o'n ni'n gwneud ar ddechrau'r pandemig," dywedodd.

"Felly golchi'n dwylo ni lot mwy aml, aros adref os chi'n cael Covid, gwisgo gorchudd wyneb os chi mewn lle lle mae lot o bobl tu fewn."

'Heb gyrraedd brig y don eto'

Eglurodd nad yw'r don hon o Covid yn dilyn y "patrwm" arferol gan fod y feirws fel arfer yn lledaenu'n gynt yn y gaeaf.

"Mae'r don yma'n cael ei heffeithio gan yr amrywiolyn BA.5 so mae'n wahanol i beth sydd wedi bod o'r blaen.

"Yn y gorffennol, ni'n gweld bod 'na batrwm lle o'n ni'n gweld y tonnau'n ma'n dod yn fwy yn ystod y gaeaf pan o'dd pobl yn cymysgu tu fewn.

"Dyw hynny ddim wedi digwydd tro 'ma, ni'n gweld y ton yn dod aton ni yng nghanol yr haf.

"Dy'n ni'm yn si诺r pa mor hir fydd y don yma'n para chwaith... be' sy'n glir yw ein bod ni ddim wedi cyrraedd brig y don eto."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Disgrifiad o'r llun, Mae profion LFT ar gael am ddim i bobl yng Nghymru gyda symptomau Covid tan ddiwedd Gorffennaf

Dywedodd y dylai pobl barhau i brofi, gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun profi LFT tan ddiwedd y mis.

Dywedodd hefyd y dylai pobl "aros adref a peidio pasio'r haint ymlaen", a gofynnodd i bobl sydd heb eu brechu, "yn arbennig rheiny sy'n fwy bregus", i wneud hynny.

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn paratoi ar gyfer yr hydref ac y byddan nhw'n cyhoeddi'n ddiweddarach yr wythnos hon o ran pwy fydd yn gymwys i gael brechlyn arall yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd manylion am gynllun brechu'r hydref yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon yn 么l Eluned Morgan

"Byddwn ni'n dilyn canllawiau'r JCVI [Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu]... dwi ddim yn disgwyl y bydd yr holl boblogaeth yn cael y cyfle i gael brechlyn arall.

"Y pobl y'n ni'n poeni amdanynt yn fwy na dim yw'r rheiny sy'n fregus ac yn h欧n.

"Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio, dy'n ni'n poeni am ffliw y gaeaf nesaf hefyd.

"Dy'n ni ddim wedi gweld ffliw ers dwy flynedd ac y'n ni'n poeni am hynny hefyd."