麻豆官网首页入口

Dros 180,000 o bobl 芒 Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf Covid positifFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd mwy na 180,000 o bobl wedi eu heintio 芒 Covid yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r ffigwr wedi cynyddu unwaith eto ac yn cyfateb ag un o bob 17 o bobl, neu 6% o'r boblogaeth.

Yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae'r nifer wedi cynyddu o 149,700 yr wythnos flaenorol i 183,500 yn yr wythnos hyd at 6 Gorffennaf.

Dyma'r chweched wythnos yn olynol i nifer yr achosion gynyddu.

Ers haf 2020, mae miloedd o bobl ar draws y wlad wedi cael eu profi yn wythnosol.

Dyna sut mae'r ONS yn gallu amcangyfrif faint o bobl sy'n debygol o fod wedi eu heintio yn y gymuned.

Amcan o heintiadau Covid-19 yng Nghymru. Nifer gafodd eu heintio, yn 么l arolwg swab.  Ar sail arolwg swab o 4,216 person yng Nghymru.

Mae cyfradd yr achosion yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond yn is na'r Alban.

Mae'r ONS yn amcangyfrif bod cyfraddau'r haint ar eu huchaf ymysg pobl yn eu 30au cynnar, ac isaf ymysg pobl yn eu 70au ac 80au.

Is-amrywiolion BA.4 a BA.5 Omicron sy'n gyfrifol am y don bresennol.

Dywedodd swyddogion iechyd yng Nghymru bod disgwyl i'r don bara tan ddiwedd Gorffennaf neu ddechrau Awst.

Pynciau cysylltiedig