麻豆官网首页入口

'Siom' wrth i'r Ambiwlans Awyr gau safle yn Y Trallwng

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans awyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen 拢8m y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth

Mae gwleidyddion lleol wedi mynegi "siom" wedi i Wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru gadarnhau eu bod nhw'n bwriadu cau eu safle yn Y Trallwng.

Dywedodd Aelod Seneddol Maldwyn, Craig Williams y byddai hynny'n golygu mai o Gaerdydd, Llanelli neu Gaernarfon y byddai Powys yn cael ei wasanaethu o hyn ymlaen.

Mae "pryder gwirioneddol", meddai, am beth fyddai hynny'n ei olygu i gleifion.

Ond dywedodd y gwasanaeth mai bwriad yr ad-drefnu oedd sicrhau'r "model o ddarparu gwasanaeth sydd fwyaf buddiol ac effeithlon i Gymru".

Bydd criw presennol Y Trallwng yn cael eu symud i safle yn y gogledd, meddai'r gwasanaeth, a'u horiau hefyd yn cael ei ymestyn.

'Pobl Powys am elwa'

Ers i elusen Ambiwlans Awyr Cymru gael ei sefydlu yn 2001 maen nhw wedi bod yn achub tua 2,000 o bobl y flwyddyn ar gyfartaledd.

Ond yn 么l ymchwil sydd wedi ei wneud i effeithlonrwydd y gwasanaeth, gallai'r ad-drefnu olygu bod modd iddyn nhw "fynychu dros 500 o ddigwyddiadau achub bywyd ychwanegol yng Nghymru bob blwyddyn".

Dywedodd yr elusen y byddai "pob sir" felly yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion y gallai'r hofrenyddion achub gyrraedd, gan gynnwys cynnydd o 11% ym Mhowys.

Mae'r ymchwil yn awgrymu bod "asedau trafnidiaeth gwerthfawr" fel hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym, yn ogystal 芒 meddygon arbenigol, yn cael eu "tanddefnyddio" dan y drefn bresennol.

Oherwydd hynny, mae'r gwasanaeth eisiau symud hofrennydd a chriw Y Trallwng i'r gogledd, fel bod dau griw yn gweithio o safle yn yr ardal honno o hyn ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ambiwlans Awyr Cymru'n dweud y bydd y newidiadau'n golygu bod modd cyrraedd mwy o ddigwyddiadau

Byddai hynny, medden nhw, yn golygu bod modd cael y criwiau i weithio dros ddwy shifft, ac felly bod y gwasanaeth ar gael am 18 awr y dydd, o 08:00 nes 02:00.

Bydd hofrenyddion dydd hefyd yn cael technoleg i allu gweld yn y nos, gan olygu bod modd iddyn nhw weithredu'n fwy effeithiol yn y gaeaf pan mae wedi tywyllu.

"I bobl ym Mhowys fe allai deimlo'n wrth-reddfol bod symud i ffwrdd o'r sir am fod yn fuddiol," meddai Dr Sue Barnes, prif weithredwr yr elusen.

"Ond mae tystiolaeth gryf sy'n dweud y bydd y rhanbarth hon, fel pob rhan o Gymru, yn elwa o'r newidiadau arfaethedig."

'Hollbwysig ei fod yn aros'

Serch hynny, pryderus fu'r ymateb ymhlith rhai trigolion lleol, gyda'r Aelod Seneddol Ceidwadol yn dweud ei fod yn "siomedig ac wedi synnu" mewn neges ar Facebook.

"Gydag amseroedd ymateb siomedig i ambiwlansys ffyrdd yn Sir Drefaldwyn... rwy'n bryderus iawn am yr effaith bosib ar bobl leol sydd mewn damweiniau difrifol," meddai Craig Williams AS.

Ychwanegodd aelod Ceidwadol Maldwyn yn y Senedd, Russell George ei fod yn ei chael hi'n "anodd gweld" sut y byddai symud yr ambiwlans awyr o'r canolbarth i'r gogledd yn gwella pethau, "er gwaethaf beth mae Ymddiriedolaeth yr Ambiwlans Awyr wedi amlinellu".

Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys, Elwyn Vaughan ei bod hi'n "hollbwysig fod y gwasanaeth yma'n parhau" gan ei fod yn darparu "gwasanaeth hanfodol i'n cymunedau".

Disgrifiodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds - sydd hefyd yn AS dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru - y gwasanaeth ym maes awyr Y Trallwng fel un "hollol hanfodol i'r rhanbarth".

Pynciau cysylltiedig