麻豆官网首页入口

Theresa May yn 'gyfrifol' am ymateb y DU i eithafiaeth

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Dylai Theresa May gymryd cyfrifoldeb os nad yw Prydain wedi bod yn ddigon llym wrth ymateb i eithafiaeth, yn 么l arweinydd Plaid Cymru.

Fe wnaeth Leanne Wood ei sylwadau mewn dadl deledu gan y 麻豆官网首页入口, ddiwrnod wedi'r ymosodiad terfysgol yn Llundain.

Dywedodd Ms Wood hefyd ei bod hi eisiau gweld y gyfradd dreth uchaf yn cael ei godi o 45% i 50%.

Byddai trethi uwch yn gallu mynd tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus, meddai.

'Cyfrifoldeb'

Wrth gyfeirio at araith y prif weinidog yn dilyn yr ymosodiad, pan ddywedodd Mrs May fod "gormod o oddef eithafiaeth wedi bod yn y wlad yma", cyfeiriodd Ms Wood at y ffaith ei bod hi wedi bod yn ysgrifennydd cartref am chwe blynedd cyn dod yn brif weinidog.

"Ers 2010 mae hi wedi bod mewn safle i wneud rhywbeth am hyn," meddai.

"Ac os nad ydyn ni wedi bod ddigon llym ar eithafwyr, fel mae hi'n honni, oni ddylai hi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros hynny?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Theresa May yn Ysgrifennydd Cartref am chwe blynedd cyn dod yn Brif Weinidog

Wrth siarad ar Election Questions ar 麻豆官网首页入口 One, dywedodd Ms Wood y byddai Plaid Cymru "yn agored i drafodaeth" ar godi treth incwm i bobl yng Nghymru ar gyflogau uchel, unwaith y bydd y pwerau hynny wedi eu datganoli.

"I'r rheiny sy'n gallu fforddio i dalu fwyaf, fe fydden ni," meddai.

Wrth gael ei holi'n bellach a fyddai hi'n fodlon codi'r dreth "mewn egwyddor", dywedodd: "I'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm ar gyfer pobl sy'n talu 45% ar hyn o bryd, hoffwn ni weld hynny'n codi i 50%.

"Mewn cyd-destun Prydeinig byddai hynny'n golygu 拢3bn yn ychwanegol i dalu am wasanaethau cyhoeddus."

Annibyniaeth

Ond ychwanegodd: "Pan fydd treth incwm yn dod i Gymru fe fyddwn ni'n cael sgwrs wahanol."

Bydd pwerau i amrywio treth incwm yn cael eu datganoli i Gymru o 2019 ymlaen.

Pan ofynnwyd i Ms Wood a fyddai "Brexit caled iawn" yn adeg i danio ymgyrch ar gyfer annibyniaeth, dywedodd fod hynny'n "bosib iawn".

"Os yw'r cytundeb terfynol yn un gwael iawn i Gymru wedyn mae'n rhaid i ni ystyried pob opsiwn bryd hynny," meddai.