麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

麻豆官网首页入口 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆官网首页入口 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Work
Bwcle – Llestri a Llafar



Pwll Glo Mynydd Bwcle
Pwll Glo Mynydd Bwcle – mae’r hen simneiau a llinellau’r tramiau yn dal i’w gweld o’r llwybrau cerdded trwy garedigrwydd Cymdeithas Treftadaeth Bwcle
© Buckley Heritage Society

Mae Bwcle heddiw yn dref o tua 15,000 o bobl, ac mae yna sefydliad wedi bod ar neu yn agos i’r safle bresennol ers yr Oes Efydd. Cafodd y dref ei dogfennu am y tro cyntaf ym 1284 fel ‘porfelaeth Maenor Ewlo’, a thua’r adeg yma cafodd cloddio am lo a gwneud llestri eu cofnodi yn yr ardal.

Caiff Bwcle ei amgylchynu gan, ac mae’n cynnwys, nifer o gaenau o lo, sydd mor agos i’r wyneb nes ei bod yn hawdd eu cyrraedd heb gloddio siafftiau dwfn, a gellid eu casglu o dyllau bas trwy godi’r glo i fyny mewn basgedi. Daethpwyd o hyd i glai llosg caled wrth ymyl y caenau glo, a châi hwn ei gasglu ar ôl hindreulio yn yr elfennau. Daethpwyd o hyd i glai potiau gludiog ar y wyneb ac mewn caeau cyfagos.

Roedd y cyfuniad hwn o gleiau oedd ar gael yn berffaith i wneud llestri pridd yn rhad. Roedd plwm yn elfen bwysig arall mewn gwydro’r llestri, a chafodd ei gloddio ers cyfnod y Rhufeiniaid yn Helygain a Rhosesmor gerllaw.

Roedd Bwcle mewn safle gwych i allforio nwyddau, gan fod sawl nant yn tarddu yn ac o gwmpas y dref, ac wedyn yn llifo i Foryd yr Afon Ddyfrdwy. Ffurfiodd y nentydd hyn sianeli yn y tywod, ac ar lanw uchel gallai llongau hwylio i fyny’r rhain, casglu eu llwythi o lestri pridd a glo, a dychwelyd i’r mor.

Câi crochenwaith hefyd ei allforio dros dir i farchnad Caer ar hyd y ‘Filltir Fudur’ – yr enw lleol am y ffordd o Gaer i Fwcle – ac ar ôl 1866, ar y rheilffyrdd i weddill Prydain.


Tudalennau: [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Humber
Hull's colourful history
Related Stories
y plant a weithiai yn y crochendai
Hel atgofion am weithfeydd briciau Bedford.
Blacledio a channu yn y diwydiant les.




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy