| ![Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru](/staticarchive/982bbaee97dcc4a5be4fa625ee3f51bbf1a6199e.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Work](/staticarchive/071b9c7cc5b06af8ede707cefb43a8cd93eb26da.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/4da81475bce87e85d2d169dd1862a5cb017a775c.gif) |
Bwcle – Llestri a Llafar |
![](/staticarchive/c330d17371c90d83e5c0e60047fc98ea6c9e45bd.gif) |
![Jar tybaco](/staticarchive/b4427aa81d4eb97ce3fda01aaf99b6e683673241.jpg) Jar tybaco (sgraffito), a wnaed yng Nghrochendy Hayes, Bwcle (19eg ganrif) © Canolfan Treftadaeth Bwcle | Yn y 19eg Ganrif, roedd nifer o bobl o’r tu allan o’r siroedd ar y ffin a Swydd Stafford yn dal i symud i mewn i’r ardal, ond roedd prif ddiwydiannau Bwcle yn dechrau cwrdd ag anawsterau. Wrth gloddio am lo, gwelwyd bod nifer o’r gwythiennau wedi eu disbyddu, a daeth yn angenrheidiol i gloddio am lo mewn mannau tipyn dyfnach.
Roedd masgynhyrchu llestri a dysglau enamel, a datblygiad y system rheilffordd a wnaeth y nwyddau hyn yn haws eu cael, yn dechrau bod yn fygythiad i fusnesau llestri pridd Bwcle, - busnesau gâi eu rhedeg gan deuluoedd. Tynnodd dau Ryfel Byd yn yr 20ed Ganrif weithwyr i ffwrdd o Fwcle i’r rhengoedd blaen, gan leihau’r nifer o grochendai teuluol i ddim ond dyrnaid.
!['Llestr o grochenwaith wedi ei addurno â llithriadau gyda chynllun sgraffito o aderyn a mwydyn, a wnaed yng Nghrochendy Brookhill, Bwcle, tua 1640-1670'](/staticarchive/22b62c493c052646615fa78aa9d942dc98241c0a.jpg) 'Mae’r dechneg sgraffito yn cael ei gynhyrchu trwy roi côt slip o glai hylif dros gorff y llestr cyfan. Pan fydd mor galed â lledr, caiff cynllun ei grafu trwodd i ddatgelu corff o liw cyferbyniol y llestr sydd oddi tano.’ © Canolfan Treftadaeth Bwcle | Parhaodd rhai crochendai fel Crochendy Hayes, a sefydlwyd ym 1740, i gynhyrchu crochenwaith Bwcle gan barhau yn eiddo i’r un teulu nes iddo gau yn y 1940au. Penderfynodd eraill, fel Crochendy Powell, y Crochendy mwyaf ym Mwcle hyd 1914, i newid eu llinell gynhyrchu i weithio mewn peirianneg a phlastigau.
Bu i Grochendy Sharret, a ddaeth i fod yn ‘The Art Pottery Co.’ ac yna J. Lamb & Sons gael ei gau yn gynnar yn y 1940au gan adael odyn o grochenwaith heb ei grasu. Daeth mab y perchennog yn ôl o’r rhyfel ym 1946, taniodd yr odyn gan grasu’r crochenwaith oedd ar ôl. Wedi iddo gael ei grasu, gwelwyd ei fod o ansawdd ardderchog, a dyma’r llwyth olaf o grochenwaith i gael ei gynhyrchu ym Mwcle.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![English](/staticarchive/6b52237eabc927cf5d1bbc9957b8d6756002d9ad.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Internet Links](/staticarchive/02720e2528146a9fe7a81e33f88dc6a4eb8de93f.gif)
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|
Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Related Stories](/staticarchive/1badd8bfb73dbf34acae4126c1c027fc8e0fd510.gif)
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
|