| ![Legacies - Gogledd Orllewin Cymru](/staticarchive/9e48184eadd679776134ca36f77e2e0ac5663bff.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Work](/staticarchive/071b9c7cc5b06af8ede707cefb43a8cd93eb26da.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/4da81475bce87e85d2d169dd1862a5cb017a775c.gif) |
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach... |
![](/staticarchive/c330d17371c90d83e5c0e60047fc98ea6c9e45bd.gif) |
![Chwarel y Penrhyn](/staticarchive/1ee1b32c4bd3d5545116b828bf303264a07b95f3.jpg) Y Chwarel Lechi hon sydd wedi ffurfio cymeriad yr ardal a’i phobl. © 麻豆官网首页入口 | Yn rhannol, y cyfychluniau sy'n gyfrifol. Profodd tirwedd fynyddig Cymru i fod yn rwystr i oresgynwyr Sacsonaidd, yna i Normaniaid, ac fe amddiffynnodd ddatblygiad cymdeithas Geltaidd ar gyrion y genedl-wladwriaeth gryfaf yn y byd yn ei dydd.
Hefyd mae'r cynnwys yn gyfrifol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, darparodd y mynyddoedd hyn y cyfoeth mwynol a adeiladodd genedl fodern Cymru ac a ddylanwadodd yn fawr ar y strwythur gymdeithasol, y dosbarthiad, y boblogaeth a'r ymddangosiad ffisegol mae'r wlad wedi ei etifeddu heddiw.
Cymoedd de Cymru yw'r esiampl berffaith o hyn, ond mae hefyd yn wir am rannau o orllewin Cymru, o ogledd-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig o ardaloedd chwarelyddol gogledd-ddwyrain Cymru, lle mae gweithiau oriel cenedlaethau o chwarelwyr wedi trawsffurfio'r mynyddoedd i fod yn sigwratau llwyd grisiog.
Yn ei ddydd roedd diwydiant llechi Cymru unwaith yn cyflogi miloedd o bobl, yn anfon ei gynnyrch o gwmpas y byd ar y rheilffyrdd a'r môr, gwnaeth rhai buddsoddwyr yn gyfoethog iawn, a gwnaeth eraill yn fethdalwyr. Yn anterth y diwydiant, yn rhan olaf y 19eg Ganrif, fe drodd yr elw anferth a wnaed o lechi ardaloedd anferth o Ogledd Cymru i fath o Klondike Celtaidd, gyda hapfuddianwyr, cwmnïau a grwpiau bychain o weithwyr mentrus yn agor degau o gloddfeydd newydd yn y gobaith o wneud ei ffortiwn o aur llwyd Gwynedd.
O gwmpas y gweithiau hyn y tyfodd y cymunedau a gyflenwodd y gweithlu - llefydd tebyg i Blaenau Ffestiniog, Talysarn, a Bethesda.
Words: Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![English](/staticarchive/6b52237eabc927cf5d1bbc9957b8d6756002d9ad.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Internet Links](/staticarchive/02720e2528146a9fe7a81e33f88dc6a4eb8de93f.gif)
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|

Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Related Stories](/staticarchive/1badd8bfb73dbf34acae4126c1c027fc8e0fd510.gif)
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
|