| ![Legacies - Gogledd Orllewin Cymru](/staticarchive/9e48184eadd679776134ca36f77e2e0ac5663bff.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Work](/staticarchive/071b9c7cc5b06af8ede707cefb43a8cd93eb26da.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/4da81475bce87e85d2d169dd1862a5cb017a775c.gif) |
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach... |
![](/staticarchive/c330d17371c90d83e5c0e60047fc98ea6c9e45bd.gif) |
![Arweinwyr streic y Penrhyn](/staticarchive/56e0e64b96c8149b2da3817f1172a0ca06154fa7.jpg) © 麻豆官网首页入口 | Dyna beth ddigwyddodd ym Mis Ebrill 1900, pan wrthododd rheolwr chwarel y Penrhyn yr hawl i'r gweithwyr gasglu taliadau undeb ar diriogaeth y chwarel fel ymgais i roi terfyn ar weithgaredd undebol. Dechreuodd y weithred hon yr hyn a ddatblygodd i fod yn un o anghydfodau diwydiannol hiraf a chwerwaf yn hanes Prydain, - anghydfod sy'n dal i atsain hyd heddiw.
Protestiodd rhai dynion am y cyfyngiad ac fe gawson nhw'u diarddel yn syth o'r lleoliad; cerddodd y gweddill allan,- bron 3,000 ohonyn nhw.
Cafodd tua 400 eu denu nol i'r gwaith, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, gan anrheg o sofren ac addewid o godiad cyflog; fe ddaethon nhw i gael eu galw'n "Fradwyr" gan y streicwyr. Byddai teuluoedd a oedd yn deyrngar i'r streic yn rhoi hysbysiadau yn eu ffenestri yn dweud: "Does dim bradwr yn y ty hwn".
Llusgodd y misoedd yn eu blaen. Cafwyd rhai helyntion, a chafodd y Ddeddf Derfysg - a rybuddiai'r protestwyr i wasgaru gan awdurdodi defnyddio grym yr heddlu neu hyd yn oed grym militaraidd petai raid - ei darllen ar un achlysur. Yr un pryd cynhaliodd yr undeb a pherchennog y chwarel, yr Arglwydd Penrhyn, ymgyrchoedd croes calonnau a meddwl byd eang trwy golofnau'r papurau newydd, a fu’n dilyn yr anghydfod â chryn ddiddordeb.
Ond yn y diwedd, nid y calonnau na'r meddyliau a ddatrysodd y mater, ond stumogau gweigion teuluoedd y streicwyr. Aeth y dynion yn ôl i'r gwaith ym Mis Tachwedd 1903, gyda'u hundeb yn dal i fod heb ei gydnabod. Roedden nhw wedi para'n gryf am dair blynedd a saith mis.
Words: Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![English](/staticarchive/6b52237eabc927cf5d1bbc9957b8d6756002d9ad.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Internet Links](/staticarchive/02720e2528146a9fe7a81e33f88dc6a4eb8de93f.gif)
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|

Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Related Stories](/staticarchive/1badd8bfb73dbf34acae4126c1c027fc8e0fd510.gif)
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
|