Main content

Violet Skies

Caiff y gair 'sinematig' ei ddefnyddio'n rhy aml i ddisgrifio cerddoriaeth ond nid yw bob amser yn tanio'r dychymyg. Mae cerddoriaeth Violet Skies, ar y llaw arall, yn rhy eangfrydol, synhwyrus ac awgrymog i gael ei disgrifio gan y gair hwnnw.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Violet

Dim ond nawr y gellid bod wedi recordio'r caneuon hyn, sy'n canolbwyntio ar lais hynod o arlliwiedig Violet, ac yn adleisio synwyrusrwydd modern iawn sy'n bodoli rhwng genres gwahanol. Mae'n sain unigryw a gaiff ei sbarduno gan chwilfrydedd awchus Violet am y cyfleoedd creadigol a gynigir gan dechnoleg. Ond mae'n llawn angerdd. Y berthynas hon rhwng y posibiliadau personol a chreadigol a ddaw yn sgil technoleg ddigidol sy'n gwneud cerddoriaeth Violet mor unigryw a gwefreiddiol.

Mae'r ffaith ei bod hi'n ysgrifennu alawon cofiadwy y gellir chwibanu iddynt yn helpu hefyd, wrth gwrs.

Fel y dywed Violet: "Mae fy sain yn cydbwyso cariad at yr artistiaid yr arferwn i wrando arnynt pan oeddwn i'n iau, fel Joni Mitchell, Sting a Paul Simon, a synau James Blake a Massive Attack".

Mae Violet yn hanu o Gas-gwent yng Ngwent. Yn 2014, fe'i gwelwyd yn chwarae ar lwyfan 麻豆官网首页入口 Introducing Stage yn Glastonbury, yn brif berfformiwr mewn sioe yn Llundain, yn agor sioe i A Great Big World, band sydd wedi ennill Gwobr Grammy, ac yn rhyddhau ei EP, 'Dragons'. Mae traciau Violet wedi cael eu chwarae gan Huw Stephens ar Radio 1, Jamie Cullum ar Radio 2 ac wedi ennyn cefnogaeth ar draws 麻豆官网首页入口 Radio Wales, ac mae wedi ymddangos yn Hunger Magazine ac NME, a sawl blog ar-lein.

Yn 2015, bydd Violet yn gweithio tuag at ryddhau ei halbwm cyntaf, yn ogystal â nifer o berfformiadau mewn gwyliau cerddoriaeth eraill.

Dolenni Perthnasol