Main content

Cold Committee

Ddwy flynedd a hanner yn ôl, roedd si ar led bod band ifanc, gwych ar y sîn yn chwarae gitarau - ar ffurf pedwarawd clasurol 'yr hogia' – yn ysgrifennu caneuon cain a oedd bron â bod yn rhy aeddfed iddyn nhw; band o arfordir gogledd-ddwyrain Cymru a ddenodd sylw hyrwyddwyr a blogwyr lleol profiadol, i'r graddau fel eu bod yn teimlo mai nhw oedd y cyfle gorau i roi eu hardal nhw o'r byd, a fyddai'n aml yn cael ei hanwybyddu, ar y map.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Jordan Samuel (Vocals/ Guitar), James Cairns (Guitar/ Backing Vocals), Adam Bass (Bass), Sam Hughes (Drums)

Ddwy flynedd a hanner yn ôl, roedd si ar led bod band ifanc, gwych ar y sîn yn chwarae gitarau - ar ffurf pedwarawd clasurol 'yr hogia' – yn ysgrifennu caneuon cain a oedd bron â bod yn rhy aeddfed iddyn nhw; band o arfordir gogledd-ddwyrain Cymru a ddenodd sylw hyrwyddwyr a blogwyr lleol profiadol, i'r graddau fel eu bod yn teimlo mai nhw oedd y cyfle gorau i roi eu hardal nhw o'r byd, a fyddai'n aml yn cael ei hanwybyddu, ar y map.

Mae Catfish and the Bottlemen wedi ffrwydro ar y sîn ers hynny, ond nid nhw sy'n destun siarad (er mor wych yw'r band hwn). Y band oedd yn destun yr holl sibrydion cyffrous hyn oedd Cold Committee o Brestatyn/ y Rhyl.

Roedd y demos cyntaf yn llawn potensial; roedd yr ysgrifennu yn gadarn ac yn awgrymu'r llwyddiant a oedd ar y gorwel. Ac mae hyn yn ddigon gwir. Cafodd EP cyntaf y band, a ryddhawyd yn 2014, ei chwarae ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio 1 a Radio Wales. Mae wedi cefnogi artistiaid tebyg i Miles Kane a Superfood, ac aeth i'r Eidal i gefnogi Beady Eye. Mae'r hunluniau o'r daith honno – Cold Committee yn cymdeithasu gyda Liam - yn arwydd o'r baton yn cael ei basio o'r naill genhedlaeth i'r llall.

Mae llawer o gyndadau'r band yn dylanwadu ar ei gerddoriaeth, The Beatles / The Who / Oasis / Arctic Monkeys ac ati, ond mae digon o gyffyrddiadau personol ynddi hefyd, sydd i'w gweld yn y caneuon gwych, ac mae hyn ynddo'i hun yn profi bod y band yn fwy na dim ond ymarfer mewn clasuriaeth retro.

Lluniau o Fforest

Dolenni Perthnasol