Diweddarwyd y dudalen: 19 Awst 2020
Pa fath o hysbysiadau fydda’ i’n eu cael?
Ar hyn o bryd, gallwn ni roi hysbysiadau i chi ynglÅ·n â phenodau newydd o raglenni rydych chi wedi eu hychwanegu i Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iPlayer, a sioeau rydych chi wedi tanysgrifio iddyn nhw yn Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Sounds.
Mae hysbysiadau wedi eu personoleiddio ar gyfer gwasanaethau eraill, fel adrannau tywydd, plant, newyddion a chwaraeon y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú, ar y gweill hefyd.
Gallwch hefyd dderbyn hysbysiadau ar apiau gwasanaethau fel Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú News, sydd ddim wedi eu cysylltu â'ch cyfrif Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú. Gallwch ddysgu mwy am hyn yn yr ap ei hun.
Fydda’ i’n cael hysbysiadau ar wefan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ac yn apiau’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú?
Gallwch weld eich hysbysiadau personol ar wefan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú drwy glicio ar y gloch ar frig unrhyw un o dudalennau'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú. Bydd rhain wedi eu seilio ar bethau rydych chi wedi eu hychwanegu neu danysgrifio iddyn nhw, fel rhaglenni teledu neu bodlediadau.
Rydyn ni'n treialu hysbysiadau wedi eu personoleiddio yn yr apiau Sounds a Bitesize. Ac rydyn ni'n edrych ar apiau eraill hefyd, felly cadwch olwg am fanylion.