麻豆官网首页入口

Adroddiad am bron 20 mlynedd o waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Logo Bwrdd yr Iaith GymraegFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y Bwrdd yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth

Mae adolygiad o waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ei gyhoeddi wythnosau cyn y daw'r corff i ben.

Mae'n crynhoi holl weithgareddau'r bwrdd gafodd ei sefydlu yn 1993.

Ar Ebrill 2 bydd ei gyfrifoldebau'n cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws.

Mae'r adolygiad yn cynnig argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad,

Iwan Griffiths yn holi Marc Phillips, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Wrth lansio'r ddogfen, lleisiodd cadeirydd y bwrdd, Marc Phillips, ei farn yngl欧n 芒 sut y dylai'r iaith gael ei hybu.

Dywedodd ei fod yn croesawu penodi swydd comisiynydd y bydd ei r么l yn "fwy grymus".

"Bydd rhan helaeth y gwaith yn gyfrifoldeb uniongyrchol y llywodraeth," meddai.

"Yn sicr, bydd 'na fwy o atebolrwydd.

"Ond mae'n gam dewr gan y llywodraeth i gymryd cyfrifoldeb llawn am yr iaith a bydd yn galw am newid diwylliant gweithredu sylweddol o fewn y Gwasanaeth Sifil."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol